Bydd y project yn llenwi ffurflen gais ac yn ei hanfon i 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk
Bydd gwirfoddolwyr annibynnol o’r grŵp llywio buddion cymunedol yn adolygu’r cais i weld a yw’n gyffredinol addas (e.e. a yw’r project yn gweithredu yn y Fro, amserlenni ayyb)
Cyfrifir sgoriau o’r arfarniad cychwynnol ac anfonir ceisiadau ar y rhestr fer i’r contractwyr
Ar y cam hwn, bydd tîm Ysgolion y 21ain Ganrif yn rhoi gwybod i’r project os gafodd ei roi ar y rhestr fer.
Bydd y contractwyr yn trafod y cais yn y cyfarfod misol ar fuddion cymunedol a phenderfynu a yw’n ddichonadwy cefnogi’r project.
Bydd tîm Ysgolion y 21ain Ganrif yn rhoi gwybod i’r project os gafodd ei dderbyn (sylwer y gallai’r project gael ei dderbyn yn llawn, yn rhannol neu gyda mân addasiadau)
Os caiff y project ei dderbyn, bydd tîm Ysgolion y 21ain Ganrif yn cysylltu cysylltiadau perthnasol y project â’r prif gontractwr er mwyn trafod rhagor o fanylion a’r camau nesaf
Darperir adborth i unrhyw brojectau na chafodd eu derbyn gan dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ac mae croeso iddynt ymgeisio eto