Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Yn syml, mae ecoleg yn cyfeirio at y berthynas a'r rhyngweithio rhwng organebau a'u hamgylchedd. Os yw ecosystem yn iach yna mae cydbwysedd rhwng y rhyngweithio hwnnw sy'n golygu y gall planhigion ac anifeiliaid ffynnu. Pan fydd ecosystemau'n ffynnu ac yn llawn rhywogaethau amrywiol yna gallant greu manteision cadarnhaol i bobl, fel aer a dŵr glanach, gan greu mannau croesawgar ar gyfer hamdden ac ymlacio, a helpu i atal llifogydd lleol. O lefel leol i fyd-eang, mae ein hecosystemau'n cael eu bygwth gan newid yn yr hinsawdd, gorgloddio a defnydd gormodol ar adnoddau felly mae angen i bob un ohonom helpu i wella'r ecosystemau hyn lle bynnag y bo modd. Gall gwaith adeiladu yn arbennig gael effaith negyddol wrth iddo gael ei wneud ac ar ôl iddo gael ei wneud os na rhoddir camau gofalus ar waith i ddiogelu'r bywyd gwyllt a'r cynefinoedd o fewn y safle a'r cyffiniau. Heb ecosystemau lleol iach byddwn yn colli rhai o'n rhywogaethau mwyaf annwyl o fewn cenhedlaeth; gan gynnwys y draenog, y durtur, y wiwer goch a gwiberod. Mae gwella cynefinoedd yn un o'r mesurau cynaliadwyedd a wnawn i gyflawni safon Rhagoriaeth BREEAM. Mae hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau fel corff cyhoeddus dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy ddiogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau sy'n gweithio'n iach. Felly, am yr holl resymau hyn mae'n bwysig diogelu a gwella ecoleg cymaint â phosibl o fewn ein safleoedd.
Lawrlwythwch ein taflen
Ddechrau Mis Hydref 2020, bu disgyblion Blwyddyn4 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg (YGBM) aswyddogion y Cyngor o'r tîm Ysgolion y 21ain Ganrifa’r tîm Cefn Gwlad yn ymchwilio i'r basnau cadwnewydd ar safle YGBM.Darllenwch ein astudiaeth achos
Mae tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif a chontractwyr adeiladu hefyd yn helpu'r amgylchedd drwy godi adeiladau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, integreiddio deunyddiau carbon-isel, a chreu opsiynau ar gyfer teithio’n llesol i safleoedd ein hysgolion. Mae'r tîm hefyd yn gwella ecoleg yn y Fro ehangach drwy gefnogi gerddi cymunedol. Dysgwch fwy drwy fynd i'n tudalen we ar fanteision cymunedol.