Ysgolion yr 21ain GanrifVale 21stC Schools Logo with Strap (Transparent)

Buddsoddi yn nyfodol addysg ym Mro Morgannwg

 

Beth yw Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif?

Mae’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn fuddsoddiad strategol hirdymor yn yr ystâd addysgol ledled Cymru. Mae’n gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), awdurdodau lleol, colegau ac awdurdodau esgobaethol. Ceir manylion pellach Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif trwy wefannau Ysgolion yr 21ain Ganrif a Llywodraeth Cymru.

 

Beth yw manteision Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif?

  • Safleoedd addas at y diben, sy’n rhoi mynediad i bawb, sy’n galluogi athrawon i ganolbwyntio ar fwyhau canlyniadau addysgol. Lleoedd dysgu gwell ar gyfer yr 21ain Ganrif; a fyddai’n cynnwys cyfleusterau TGCh, ystafelloedd dosbarth arbenigol a chyfleusterau dysgu awyr agored.

  •  

    Creu mwy o gyfleoedd dysgu trwy greu ac ymestyn ysgolion, gan gefnogi poblogaeth y Fro sy’n tyfu. Cefnogi Cymru ddwyieithog, gyda buddsoddi mewn cyfleusterau addysgol cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

  •  

    Dylunnir ysgolion newydd i fodloni safon Rhagorol BREEAM, sy’n cynnwys adeiladu adeiladau sy’n effeithlon o ran ynni, gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a lleihau cost carbon gwaith adeiladu.

  •  

    Cyfleoedd incwm uniongyrchol i ysgolion trwy logi cyfleusterau i’r gymuned. Costau cynnal a chadw llai oherwydd adeiladau newydd ac wedi’u hadnewyddu. 

  •  

    Bydd disgyblion a’r gymuned ehangach yn gallu cael mynediad at fannau gwyrdd, cyfleusterau hamddenol a pherfformio ac ystafelloedd cyfarfod o ansawdd.

  • Cyfle i blant a grwpiau cymunedol ddysgu am adeiladu, gyda lleoliadau gwaith i ymgeiswyr newydd a chyfraniadau nwyddau i’r sector gwirfoddol yn rhan o ofynion manteision i’r gymuned a osodir at gontractwyr.

  • Creu rhaglen i ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi busnes lleol lle bo’n bosibl.

 

Projectau Arfaethedig a Phrojectau i Ddod ym Mro Morgannwg:

Cymunedau Dysgu Ysgol Uwchradd y Barri 

Ysgol Uwchradd Whitmore

Disgrifiad: Adeilad newydd ar yr un safle.
Gwerth: £30.5M
Cynnydd: Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Awst 2019

 

Ysgol Uwchradd Pencoedtre

Disgrifiad: Adeilad newydd ar yr un safle.
Gwerth: £34.7M
Cynnydd: Gwaith adeiladu i ddechrau ym mis Chwefror 2020

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Disgrifiad: Ymestyn o 1361 i 1660 o ddisgyblion (gan gynnwys cynradd a’r chweched dosbarth). Adnewyddu adeiladau cyfredol ac estyniad newydd.
Gwerth: £21.4M
Cynnydd: Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Awst 2019

 

 

Ysgol Sant Baruc 

Disgrifiad: Ymestyn o 210 i 420 o ddisgyblion. Adeilad newydd ar safle Glannau’r Barri (<1 milltir o’r lleoliad cyfredol).

Gwerth: £7.4m

Cynnydd: Cymeradwywyd gan y Cabinet Gorffennaf 2019

Darpariaeth Gynradd Gorllewin y Fro

Ysgol Gynradd Llancarfan 

Disgrifiad: Adeilad newydd ar safle’r Rhws.

Gwerth: £4.2m

Cynnydd: Cymeradwywyd gan y Cabinet Mawrth 2019

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant 

Disgrifiad: Ymestyn o 140 i 210 o ddisgyblion. Adeilad newydd ar yr un safle.

Gwerth: £4.2m

Cynnydd: Cymeradwywyd gan y Cabinet Gorffennaf 2019

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas 

Disgrifiad: Ymestyn o 140 i 210 o ddisgyblion. Adeilad newydd ar yr un safle.

Gwerth: £4.2m

Cynnydd: Cymeradwywyd gan y Cabinet Medi 2019

 

Ysgolion Cynradd y Bont-faen 

Disgrifiad: Cynyddu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen.

Gwerth: £7.4m

Cynnydd: Disgwylir i'r cyfnod ymgynghori ddechrau ym mis Tachwedd 2019

Ysgol Y Deri 

Disgrifiad: Wrthi’n ystyried opsiynau i gynyddu capasiti. 

Gwerth: £11m

 

Canolfan dros Ddysgu Llesiant

Disgrifiad: Ysgol newydd.

Gwerth: £4.4m

Darpariaeth Gynradd Penarth 

Disgrifiad: Ysgol newydd, yn amodol ar ddatblygiad Cosmeston.

Gwerth: £4.2m

Cynnydd: Disgwylir i’r camau cychwynnol ddechrau ym mis Tachwedd 2020

Ysgol Ffydd 3 – 16 

Disgrifiad: Adeiladu Ysgol Ffydd 3 – 16 newydd.

Gwerth: £31.9m

Cynnydd: Prosiect MIM neu Fand C

 

Mae mwy o wybodaeth am Brojectau Band B y Cyngor ar gael yn y Rhaglen Amlinellol Strategol.



Pa ran sydd gan bobl yn y rhaglen?

  • Anogir disgyblion, athrawon, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach i ymgysylltu â’r broses ymgynghori ysgolion. Cynhelir sesiynau galw heibio i ateb ymholiadau’r cyhoedd ar y cam hwn a bydd gwybodaeth lawn am y cynnig ar gael ar-lein neu ar bapur ar gais.

  • Mae disgyblion, athrawon a llywodraethwyr â rhan weithredol yn y broses gynllunio ac mae eu hanghenion, ynghyd ag anghenion dysgwyr y dyfodol, yn helpu i lywio dyluniad yr ysgol.

  •  

    Gall ysgolion gynnal gwersi cyffrous am ymweliadau safle i helpu disgyblion i ddysgu am y broses adeiladu ac i ddeall manteision eu cyfleusterau newydd. 

  •  

    Fel rhan o’r cynllun i adnewyddu ac adeiladu ysgolion newydd, bydd y contractwyr adeiladu yn cydweithio â phrojectau trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddarparu amrywiaeth o fuddion cymunedol. Os yw eich project yn ymwneud â gwella canlyniadau i bobl, yr amgylchedd, a/neu'r economi leol, gallech fod yn gymwys i elwa o gynllun Buddion Cymunedol Ysgolion yr 21ain Ganrif.

  •  

    Ar ôl cwblhau’r ysgol newydd, gofynnir i ddefnyddwyr gwblhau arolygon i weld pa mor dda mae’r adeilad yn perfformio ar lefel ymarferol.


Cwestiynau cyffredin: 

  • Fydd yr ysgolion arfaethedig yn cymryd arian gan wasanaethau eraill?

    Ariennir rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhannol gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi naill ai 65% o gyfanswm yr arian i ysgolion a gynhelir, 75% o arian i ysgolion ADY ac UAD, neu 85% o arian i ysgolion Ffyrdd (yn amodol ar gymeradwyaeth ym mhob achos). Lle bo’n bosibl, mae’r arian sy’n weddill yn dod o gytundebau Adran 106 ac nid yn uniongyrchol gan y Cyngor. Dan yr Adran hon, bydd datblygwyr tai’n cytuno buddsoddi mewn gwasanaethau neu gyfleusterau lleol yn gyfnewid am ganiatâd i adeiladu ystadau newydd. Fel arfer mae’r cytundebau hyn yn benodol i ardaloedd penodol neu fathau o wariant, sy’n golygu bod yn rhaid i’r Cyngor wario arian ar brojectau cyfalaf ac na all ddefnyddio rhoi’r arian i wasanaethau eraill. Mae hyn yn golygu nad yw’r buddsoddiad mewn ysgolion newydd yn cymryd arian gan ysgolion cyfredol neu wasanaethau cyhoeddus eraill.  

  • Ydy’r penderfyniadau wedi’u gwneud cyn ymgynghori ar y cynigion? 

    Mae unrhyw newidiadau arfaethedig i ysgolion yn destun y Cod Trefniadaeth Ysgolion diweddaraf (fersiwn 2018 ar hyn o bryd). Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybod i Gynghorau am ba agweddau addysgol ar y cynnig y mae'n rhaid iddo ymgynghori arno; er enghraifft, newidiadau i fath o ysgol, symud y safle i leoliad sy’n na milltir i ffwrdd neu newidiadau i niferoedd disgyblion sy’n fwy na 25%. Mae’r cyfnod ymgynghori’n rhoi cyfle i randdeiliaid i roi adborth ar y cynnig. Yn ystod y broses ymgynghori cynhelir sesiynau ymgysylltu rhanddeiliaid â disgyblion, rhieni, athrawon, llywodraethwyr ac aelodau’r gymuned i ateb ymholiadau a chlywed eu barn yn anffurfiol.

    Wedyn caiff yr ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor (neu’r corff llywodraethu yn achos Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir) a fydd yn pleidleisio ar y cynnig gan bwyso a mesur y risgiau a’r manteision addysgol. Gellir naill ai gymeradwyo neu wrthod y cynnig ar y cam hwn ar sail adborth rhanddeiliaid. Os yw’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig yna caiff Hysbysiad Statudol ei gyhoeddi, y gall y cyhoedd gyflwyno gwrthwynebiadau iddo. Rhoddir y gwrthwynebiadau i’r Cabinet, sydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran a yw’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cynnig. Mae hyn yn golygu na phenderfynir ar gynigion o flaen llaw gan fod llawer o gamau lle y gall cynigion gael eu gwrthod ar seiliau addysgol dilys. Mae mwy o wybodaeth am y broses ymgynghori statudol yn y canllaw hwn

  • Ar ba ffactorau mae’r cynigion wedi’u seilio? 

    Nid yw’r cynigion yn cael eu creu ac ni phenderfynir yn eu cylch gan unrhyw un person, ond yn hytrach, cânt eu hymchwilio gan sawl adran yn y Cyngor ac maent yn destun craffu gan y Cabinet. Mae’r cynigion ar sail llawer o ffactorau; megis addasrwydd cyfleusterau addysgol, tueddiadau derbyn i ysgolion penodol, arolygon ar gyflwr adeiladau, tueddiadau poblogaeth, newidiadau deddfwriaethol a dichonoldeb ariannol. Ystyrir llawer o opsiynau trwy archwilio’r data wedi’i gasglu ac wedyn caiff cynnig a ffefrir ei gyflwyno i’r Cabinet, ynghyd â chynigion eraill, i gael cymeradwyaeth i symud ymlaen at y cam ymgynghori. Mae’r ysgol a rhanddeiliaid perthnasol eraill hefyd yn cymryd rhan yn y cam cyn ymgynghori i ddeall ymarferoldeb y sefyllfa gyfredol a sut y gallai’r opsiynau arfaethedig effeithio ar addysg. Mae hyn yn golygu bod y cynigion yn seiliedig ar y dystiolaeth gadarn orau sydd ar gael, anghenion yr ysgol, ac ystyriaethau sawl adran y Cyngor cyn i’r cynigion gael eu hagor i’r cyhoedd er mwyn cael adborth. 

  • Pam mae ar rai ysgolion angen buddsoddi? 

    Mae angen gwaith adnewyddu, ymestyn neu adeiladau newydd ar ysgolion, ar yr un safle neu ar safle cyfagos. Gall hyn fod o ganlyniad i nifer o ffactorau; gan gynnwys galw mwy am leoedd, diffyg cyfleusterau mewn adeiladau cyfredol, neu adeiladau sy’n heneiddio nad ydynt yn effeithlon o ran ynni neu nad ydynt yn bodloni safonau rheoliadau adeiladau modern. Pe bai’r ysgolion hyn yn parhau heb fuddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif yna gallai fod yn niweidiol i iechyd neu ddysgu plant. Byddai costau cynnal a chadw uchel rhai ysgolion yn cael eu lleihau hefyd trwy uwchraddio’r adeiladau, sy’n golygu y gellir defnyddio mwy o arian i gefnogi dysgu.

    Dylunnir “cynllunio treftadaeth” ar y cyd ag ysgolion sydd wedi’u hadnewyddu neu eu hailadeiladu i helpu i wneud y pontio i’r cyfleusterau’n haws ac i gadw cysylltiad â hanes yr ysgol. Er enghraifft, os oes eitemau sydd o bwys penodol i ddisgyblion neu staff wedyn gall y rhain gael eu harbed a’u hintegreiddio yn yr ystafelloedd dosbarth newydd. Mae hyn yn golygu y bydd disgyblion y dyfodol a’r gymuned ehangach yn cael budd o gyfleusterau'r 21ain ganrif ar yr un pryd â chynnal elfennau ystyrlon ysgol.   

  • Fydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu ffafrio o ran buddsoddiad? 

    Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg wedi derbyn neu byddant yn derbyn buddsoddiad ym Mand A a Band B y rhaglen. Un o’r ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth ddewis ymhle y byddwn yn buddsoddi yw galw yn y dyfodol am leoedd ysgol. Mae tuedd eang sy’n tyfu ym Mro Morgannwg gyda rhieni’n dewis anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg (cynnydd gan 6.7% er 1998) ac felly mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cael eu hymestyn ym Mand B. Ond, nid yw hyn ar draul ysgolion cyfrwng Saesneg neu rieni sydd am anfon eu plant i’r ysgolion hynny. Mae lleoedd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg os gwneir cais am y lleoedd hynny ar yr adegau priodol (h.y. ni chedwir lleoedd ysgol dewis cyntaf i deuluoedd sy’n symud i mewn i’r ardal yng nghanol y flwyddyn). Adolygir derbyniadau bob blwyddyn ac un ffactor yn unig wrth ddewis yr ysgolion i fuddsoddi ynddynt yw galw iaith.

    Mae cyfeiriad strategol Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru yn cefnogi dyfodol cryf i Gymru ddwyieithog, ac mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i addysg gyfrwng Cymraeg a Saesneg ffynnu. Nid yw rhan fwyaf y rhieni sy’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Fro yn siarad Cymraeg. Dyma pam bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg yn cyfathrebu â rhieni yn Gymraeg a Saesneg bob tro. Ceir mwy o wybodaeth yn y daflen ddwyieithog hon: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/Working/Education%
    20and%20Skills/Admissions-Guide/Being-Bilingual-booklet-English.pdf
     

  • Sut byddai goblygiadau trafnidiaeth posibl yn cael eu hystyried yn rhan o’r cynigion? 

    Byddai Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor yn gyfrifol am y broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi a byddai asesiad trafnidiaeth llawn yn cael ei wneud yn rhan o’r broses dylunio; gan gynnwys cyfleoedd trafnidiaeth llesol a chyhoeddus. Byddai unrhyw oblygiadau’n cael eu hystyried wrth ddylunio’r adeilad newydd a’u cyflwyno yn rhan o’r cais cynllunio.

  • Byddai’r gwaith o adeiladu neu adnewyddu’r ysgolion yn tarfu ar staff, disgyblion a thrigolion lleol? 

    Pan fo cynigion yn cynnwys adeiladu’r ysgol newydd ar y safle cyfredol neu safleoedd cyfagos, byddai’r ysgol yn gweithio’n agos gyda Thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor i beidio â tharfu gormod trwy gyfyngu ar amseroedd danfoniadau a chydweithio gyda rheolwr y safle. Ystyrir llawer o ffactorau megis sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at le digonol yn yr awyr agored ac na chyfaddawdir ar y cwricwlwm. Byddai’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’r tîm adeiladu i sicrhau bod disgyblion yn rhan o’r holl broses a bod y cwricwlwm yn cael ei wella trwy ymweliadau safle rheolaidd. 



 

Prosiectau a Gwblhawyd:

Mae’r Cyngor wedi cwblhau chwe project yn rhan o’i Raglen Amlinellol Strategol:

  • Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr, 2017

    Math: Ysgol gyfun Saesneg (Llanilltud Fawr) ac ysgol gynradd Saesneg (Ysgol y Ddraig)

    Capasiti: 1050 o ddisgyblion (Llanilltud Fawr) a 420 o ddisgyblion (Ysgol y Ddraig)

    Buddsoddiad: £20.7 miliwn

    Manteision Cymunedol: Roedd y project yn gallu cynnal 1,500 o wythnosau hyfforddiant a gwariwyd £13.7m yn lleol. Hefyd roedd y project yn llwyddiannus o ran cyfrannu buddsoddiad cymunedol o £9,387 trwy roi cymorth yn gysylltiedig â'r cwricwlwm i ysgolion lleol.

     Llantwit-Major-Learning-Community-Project-credit-HLM  YYD2 
  • Ysgol Gwaun y Nant ac Ysgol Gynradd Oak Field, 2015 

    Math: Ysgol Gymraeg (Ysgol Gwaun y Nant) ac Ysgol Saesneg (Oak Field)

    Capasiti: 420 o ddisgyblion (Ysgol Gwaun y Nant) a 210 o ddisgyblion (Oak Field).

    Buddsoddiad: £3.79 miliwn

    Manteision Cymunedol: Roedd y project yn gallu cynnal 258 o wythnosau hyfforddiant, mae 35 o brentisiaid wedi gweithio ar y project, a gwariwyd £950,000 yn lleol. Hefyd roedd y project yn llwyddiannus o ran cyfrannu buddsoddiad cymunedol o £1,170 trwy roi cymorth yn gysylltiedig â’r cwricwlwm i ysgolion lleol.

     
    Gwaun Y Nant - Outside 2b  Oak Field - Hall 2
  • Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015 

    Math: Ysgol gynradd Gymraeg (Ysgol Gymraeg Dewi Sant)

    Capasiti: 210 o ddisgyblion

    Buddsoddiad: £3.04 miliwn

    Manteision Cymunedol: Roedd y project yn gallu cynnal 180 o wythnosau hyfforddiant, mae 26 o brentisiaid wedi gweithio ar y project, a gwariwyd £400,000 yn lleol. Hefyd roedd y project yn llwyddiannus o ran cyfrannu buddsoddiad cymunedol o £1,730 trwy roi cymorth yn gysylltiedig â’r cwricwlwm i ysgolion lleol.

     
    21stC Schools - Dewi Sant (hall2)   21stC Schools - Dewi Sant (classroom2)
  • Ysgol Bro Morgannwg (Ysgol Gymraeg Nant Talwg yn flaenorol), 2014  

    Math: Ysgol gynradd Gymraeg (Ysgol Bro Morgannwg)

    Capasiti: 210 o ddisgyblion

    Buddsoddiad: £2.77 miliwn

    Manteision Cymunedol: O ganlyniad i’r project cofnodwyd 146 o wythnosau derbyn newydd, 102 o wythnosau yn ymwneud â phobl, oedd yn ddi-waith ynghynt, yn gweithio ar y safle, a chadwyd 86% o wariant y project yng Nghymru. Yn ogystal roedd y project yn cynnwys myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro ac roedd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cymunedol lleol hefyd.

     
    Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Indoor Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Exterior
  • Cymuned Ddysgu Penarth, 2014  

    Math: Ysgol gyfun Saesneg (St Cyres) ac ysgol Arbennig (Ysgol y Deri)

    Capasiti: 1285 o ddisgyblion

    Buddsoddiad: £50.34 miliwn

    Manteision Cymunedol: Galluogodd y project i 184 o ymgeiswyr newydd fynd i’r maes adeiladu, cafodd 83 o brentisiaid a hyfforddeion eu cyflogi ar y project, a chadwyd £32m o wariant y project yng Nghymru. Ail-fuddsoddodd y project tua 80% o gostau adeiladu yn ôl yn yr economi leol.


    Penarth Learning Centre  St Cyres - Hall 3 

 

 

 

WG 21st_Century Schools and Colleges Logo wgovlogo