Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae gwaith wedi dechrau ar y project i ddatblygu cymuned ddysgu yn Llanilltud Fawr. Lleolir Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr ar safle presennol Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr a bydd yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon gwell i’r gymuned eu defnyddio allan o oriau ysgol.
Mae capasiti’r ysgol uwchradd i gael ei leihau fel y bydd yn cyd-fynd yn fwy â niferoedd disgyblion a lleihau costau rhedeg yr ysgol tra'n cynnig cyfleusterau addysgu a dysgu gwell.
Disgwylir i Ysgol y Ddraig agor i ddisgyblion ym mis Hydref 2016. Caiff ysgol uwchradd Llanilltud Fawr ei chwblhau ym mis Medi 2017.
Gorffennaf 2014 – Cyngor yn cymeradwyo’r project.
Awst 2014 – Dechrau adeiladu ar safle yr ysgol gynradd newydd.
Medi 2015 – Ysgol y Ddraig yn agor ar safleoedd Ysgolion Cynradd Llaniltud Fawr ac Eagleswell.
Hydref 2016 – Cwblhau adeiladu Ysgol y Ddraig newydd.
Hydref 2016 – Plant ac athrawon yn symud i mewn i’w hysgol newydd.
Awst 2016 – Adnewyddu Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr – Cam 3
Awst 2015 – Adnewyddu Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr – Cam 1
Awst 2017 – Adnewyddu Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr – Cam 4
Mawrth 2016 – Adnewyddu Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr – Cam 2
Mai 2017 – Ysgol Gyfun Llanilltud Fawryn barod ar gyfer myfyrwyr.