Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Gyda’n partneriaid adeiladu, ISG Construction, rydym yn adeiladu adeilad ysgol 2 lawr ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Saesneg Oak Field ar y safle y mae'n ei rannu gyda'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Bydd Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant yn symud i’r adeiladau a rannwyd gan y ddwy ysgol yn flaenorol ac yn cael ei hadnewyddu.
Ym mis Tachwedd 2014 dechreuodd y gwaith o adeiladu ysgol gynradd gyda 210 o leoedd gan gynnwys meithrinfa ar gyfer Ysgol Gynradd Oak Field ar safle'r ysgol bresennol yn y Barri. Agorodd Ysgol Gynradd Oak Field ei drysau ym mis Medi 2015. Mae gwaith ail-fodelu bellach wedi dechrau yn Ysgol Gwaun y Nant a ddylid ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2015.
Mae Ysgol Gwaun y Nant ac Ysgol Gynradd Oak Field yn rhannu un adeilad ar hyn o bryd. Unwaith y bydd Ysgol Gynradd Oak Field yn gadael yr adeilad gwreiddiol caiff ei addasu a’i ail-fodelu i greu ysgol â 420 o leoedd gan gynnwys meithrinfa i ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y Barri.
Browser does not support script.
Gorffennaf 2014 – Cyngor yn cymeradwyo’r ysgolion newydd.
Tachwedd 2014 - Gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle.
Medi 2015 – Plant ac athrawon yn symud i mewn i adeilad newydd Ysgol Oak Field.
Medi 2015 - Gwaith adnewyddu yn dechrau yn Ysgol Gwaun y Nant.
Tachwedd 2015- Plant ac athrawon yn mwynhau eu hysgol newydd.