Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd y gymuned newydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o’r flwyddyn gyntaf yn y dosbarth meithrin yn 3 mlwydd oed, symud i'r ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7 ac ymlaen i gyfleoedd dysgu ôl TGAU hyd at 19 mlwydd oed.
Mae’r ysgol yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn a bydd ganddi'r proffil grwpiau blwyddyn ysgol gynradd llawn erbyn mis Medi 2017. Mae buddsoddiad o £2.7 m wedi’i wneud i adeiladu ysgol gynradd fodern ac arloesol sy’n cynnig y cyfleusterau diweddaraf a mannau agored allanol pwrpasol i alluogi'r ysgol i hyrwyddo profiadau'r plant mewn amgylchedd dysgu awyr agored.
Yr ysgol hon yw’r ysgol gyntaf ym Mro Morgannwg i’w hadeiladu gan ddefnyddio model dylunio estynedig ac fe’i hadeiladwyd mewn partneriaeth ag ISG Construction. Mae’r ysgol yn bodloni safonau Ardderchog BREEAM.
Mae gan yr ysgol newydd gynllun dosbarth arloesol, a ategir gan offer dysgu uwch-dechnoleg. Mae canol yr ysgol, a adnabyddir fel ‘Calon yr Ysgol’ yn ardal olau ac agored sy’n cynnig cyfleusterau dysgu a mannau cyfarfod ychwanegol.
Browser does not support script.
Mae dosbarthiadau yn arwain o galon yr ysgol gyda phob dosbarthiadau yn cynnwys drysau i’r ardaloedd chwarae caled neu feddal.
Buddion Cymunedol Un o’r prif egwyddorion o ran adeiladu'r ysgol oedd y byddai nid yn unig yn sicrhau cyfleusterau ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gwell yn yr ardal ond hefyd yn rhoi’r cyfle i’r gymuned rannu ei llwyddiant.
Tachwedd 2011 – Cyngor yn cymeradwyo adeiladu ysgol newydd
Mehefin 2013 - Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cyllid.
Hydref 2013 – Dechrau adeiladu ar y safle.
Hydref 2014 – Cwblhau adeiladu.
Medi 2014 – Plant ac athrawon yn symud i mewn i’w hysgol newydd.