Ysgolion Uwchradd
Fel arfer mae plant yn symud i’r ysgol Uwchradd pan fyddan nhw’n
11 mlwydd oed.
Mae ysgolion y Fro yn cael eu hariannu gan yr Awdurdod Lleol.
Mae pob ysgol yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cael eu
harchwilio’n rheolaidd gan ESTYN. Diffinnir ysgolion fel a
ganlyn:
- Ysgolion Cymunedol - a redir gan yr Awdurdod Lleol
- Ysgolion Sefydledig – a reolir gan eu corff llywodraethol eu
hunain sy’n cyflogi’r staff ac yn penderfynu meini prawf ar gyfer
derbyn disgyblion.
- Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir – ysgolion crefyddol neu
ysgolion ffydd, a reolir gan eu corff llywodraethol eu hunain.
- Ysgolion Gwirfoddol a Reolir – mae’r rhain yn debyg iawn i
ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ond fe’u rhedir gan yr Awdurdod
Lleol.
- Anghenion Arbennig - mae ysgolion anghenion arbennig cymunedol
yn darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.