Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol (NAS) Cangen Caerdydd a’r Fro Boreau Coffi'r Barri
Mae canghennau Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd â phlentyn neu aelod o'r teulu sydd ag awtistiaeth neu syndrom Asperger.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u targedu’n bennaf at rieni/gofalwyr plant/oedolion gydag awtistiaeth, ac efallai y byddant hefyd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd sy'n byw ag awstistiaeth.
Cyfle i gwrdd â siarad â rhieni a gofalwyr eraill dros baned a chacen mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.
Sylwch: nid oes rhaid bod yn aelod o Gangen Cymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol i ddod i'r digwyddiadau. Maent yn agored i unrhyw un sydd â phryderon ac a fyddai’n hoffi dysgu mwy am awtistiaeth.