Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Cynhalwyr Ifanc

Diffinnir Gofalwr Ifanc fel rhywun dan 18 oed sy'n darparu gofal di-dâl i berson arall.  Gall y person y maent yn gofalu amdano fod yn rhiant, brawd neu chwaer, nain neu daid neu berthynas arall.

Gallant ddarparu gofal ymarferol neu gorfforol, helpu gyda gofal personol, a helpu gyda thasgau domestig a / neu gefnogaeth emosiynol. 

 

Amcangyfrifir bod 800,000 o ofalwyr ifanc yn y DU. Yn fwy diweddar, mae Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn nodi bod 16% o bobl ifanc, neu oddeutu 1 o bob 6, yn datgan bod ganddynt gyfrifoldeb gofalu.

 

Mae cynhalwyr ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldebau difrifol. Ar ben dyletswyddau gofal megis gwaith tŷ, coginio ac ymolchi, rhaid iddynt fynd i’r ysgol, ac yn aml iawn, fydd eu cyfoedion ddim yn deall dim am y pwysau sydd arnyn nhw.

 

Asesiad Cynhalydd

Gall cynhalwyr ifanc wneud cais i dderbyn asesiad. Bydd asesiad yn rhoi cyfle i chi siarad â rhywun
am y math o gefnogaeth a allai hwyluso eich dyletswyddau gofal. 

Asesiad Cynhalwyr Ifanc

 

 

YMCA-logo

Prosiect Gofalwyr Ifanc y Fro

Mae'r prosiect gofalwyr ifanc ym Mro Morgannwg yn cael ei redeg gan YMCA Caerdydd ac ar hyn o bryd mae'n cefnogi bron i 90 o ofalwyr ifanc ledled y Sir.  Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Mae’r Clwb Ieuenctid yn yr Hyb, YMCA y Barri ar agor ar ddydd Mercher rhwng 5pm a 7pm yn ystod y tymor.  Mae’r sesiynau yn cael eu rhannu’n sesiynau iau (11-14) ac yn sesiynau uwch (15-18).

 

Dim ond i bobl ifanc sydd wedi’u derbyn i’r prosiect y mae’r clwb hwn. 

 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: 

 

Cysylltwch â'r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf i atgyfeirio: 

 

Mae'r YCID, neu’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

Mae YMCA Caerdydd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg, yn cefnogi cynllun cerdyn adnabod a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu gofalwyr ifanc yng Nghymru i gael eu hadnabod, teimlo’n ddilys a chael y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu.

 

Mae'r YCID, neu’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, yn gerdyn syml i helpu gweithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i'w cydnabod a'u cefnogi yn briodol.  Gall pob gofalwr ifanc wneud cais am gerdyn trwy YMCA Caerdydd - i wneud hynny ewch i:

 

Cyngor ac Arweiniad

Cyngor ac arweiniad i gynhalwyr ifanc, oedolion ifanc sy’n gynhalwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes ledled Bro Morgannwg.