Dod yn Westeiwr
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn westeiwr, llenwch y ffurflen drwy wefan Shared Lives Plus:
Unwaith byddwn ni’n fodlon eich bod yn addas, byddwn yn cyflwyno ein hadroddiad i Banel Cymeradwyo Annibynnol a fydd yn penderfynu a yw’n cytuno â ni.
Os yw pawb yn gytûn, byddwch yn cael eich cymeradwyo i fod yn westeiwr am flwyddyn.
Caiff y gymeradwyaeth i westeiwyr ei hadolygu bob blwyddyn.
Bydd gwesteiwyr yn derbyn lwfans am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu sy’n destun trefniadau treth arbennig.