Mae gan GTI Bro Morgannwg Dîm Atal ymroddgar sy'n gweithio gyda Phobl Ifanc rhwng 8 ac 17 oed sydd mewn perygl o ddod yn droseddwyr.
Caiff pobl ifanc eu cyfeirio atom gan unrhyw asiantaeth arall, er enghraifft, gweithiwyr proffesiynol Iechyd, ysgolion a’r Heddlu, ond gall pobl ifanc a'u rhieni atgyfeirio i’r gwasanaeth hefyd.
Bydd Gweithiwr Allweddol Atal yn cael ei ddynodi ar gyfer pob person ifanc, a fydd yn gweithio gyda'r person ifanc a'i deulu i'w helpu nhw i oresgyn rhai o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu mewn bywyd a'u cyfeirio at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i’w hatal rhag troseddu yn y dyfodol.
Ymhlith ein projectau a'n mentrau mae:
Panel Cefnogi Cynhwysiant Ieuenctid (PCCI)
Mae’r PCCI yn banel sy’n cynnwys llawer o asiantaethau ledled y Fro, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu, Addysg, Gwasanaethau Ieuenctid, Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a Sefydliadau Gwirfoddol. Dyluniwyd y PCCI i gefnogi pobl ifanc rhwng 8-13 oed sydd 'fwyaf' mewn perygl o ddod yn droseddwyr am resymau amrywiol, ac sydd angen mewnbwn nifer o asiantaethau er mwyn eu hatal rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Mae’r PCCI yn cynnig gwasanaethau i bobl ifanc a gyfeiriwyd atynt drwy gytuno ar gymorth a gweithrediadau tra bod y person ifanc yn gweithio gyda’r Tîm Atal.
Stigma
Rhaglen waith grŵp yw Stigma ar gyfer pobl ifanc sydd ynghlwm wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned. Mae’r rhaglen Stigma yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut y mae'n effeithio arnyn nhw eu hunain a'r gymuned.
Rhaglen Phoenix
Mae’r rhaglen Phoenix yn rhaglen y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ei rhedeg. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu am y peryglon sydd ynghlwm wrth ymddygiad troseddol, trosedd ceir, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thân mewn amgylchedd ysgogol a hwylus wrth ddysgu sgiliau megis gwaith tîm, cyfathrebu a thechnegau datrys problemau gan ddefnyddio offer y gwasanaeth tân.