Cost of Living Support Icon

Cynllun Cymorth Lleoedd

Cyllid i gefnogi gwelliant o ran lles neu ansawdd bywyd plentyn ag anabledd/anghenion ychwanegol neu blentyn mewn angen drwy ddarparu gofal plant o ansawdd i gefnogi anghenion y plentyn.

 

Cyfarwyddir y Cynllun Cymorth Lleoedd gan y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Bro Morgannwg.

 

Mae cyllid ar gael i wella lles neu ansawdd bywyd plentyn ag anabledd / anghenion dysgu ychwanegol neu blentyn mewn angen drwy gynnig gofal plant o ansawdd i gefnogi anghenion plant.  Mae'r cyllid yn cefnogi plant mewn lleoliadau cyn ysgol cofrestredig a lleoliadau gofal plant y tu allan i'r ysgol.

 

Mae plant yn cael cynnig uchafswm o 2 x sesiwn 2.5/3 awr yr wythnos am hyd at 12 wythnos i ddechrau. Mae lleoliadau’n cael eu hadolygu bob 12 wythnos ac, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, gallent gael eu hymestyn. Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud drwy amrywiaeth o asiantaethau gwahanol, gan gynnwys: Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol, ysgolion, Tîm Iechyd ac Anableddau Plant a llawer mwy.

 

Meini prawf ar gyfer cyllid:

  • Plentyn ag anawsterau emosiynol / ymddygiadol
  • Anabledd dysgu
  • Anabledd corfforol
  • Anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu
  • Plentyn o deulu incwm isel neu deulu sy'n cal budd-daliadau allan o waith

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â’r tîm Blynyddoedd Cynnar ar:

  • 01446 709269 / 01446 793030  

 

Os ydych chi’n credu y gallai’ch plentyn gael budd o’r cynllun hwn ond nad ydych yn gweithio gyda’r asiantaethau uchod ar hyn o bryd, cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar:

  • 0800 0327 322