Mathau o Ofal Maeth
Mae ar blant sy'n agored i niwed angen cymorth a diogelwch teulu maeth o bob cwr o’r Fro.
Mae ein plant i gyd yn unigryw ac mae ganddynt wahanol anghenion a chynlluniau gofal. Dyma'r rheswm y mae arnom angen tîm o ofalwyr maeth sy'n cynrychioli demograffeg gyson newidiol y plant sydd yn ein gofal. Weithiau gall hyn olygu y byddwn yn chwilio am ofalwyr â sgiliau penodol i ateb math penodol o ofal maeth.
Bydd eich asesiad i fod yn ofalwr maeth yn pennu ar gyfer pa fathau o ofal maeth y cewch eich cymeradwyo a'r gofal gwahanol y gallwch ei gynnig. Caiff hyn ei bennu yn unol â’ch profiadau, eich gallu o ran eich ffordd o fyw, eich dewisiadau yn ogystal ag anghenion y plant sydd yn ein gofal ar hyn o bryd a'n hasesiad.
Dyma’r mathau o ofal maeth rydym yn chwilio amdanynt:
-
Tymor byr: Mae gofalwyr maeth tymor byr yn rhoi cartref am ychydig o nosweithiau, wythnosau, misoedd neu hyd at ddwy flynedd i blentyn er mwyn helpu ei baratoi ar gyfer y cam nesaf, naill ai gofal maeth tymor hwy, mabwysiadu neu ddychwelyd adref i fyw gyda rhieni neu aelodau o'u teulu pan fo hynny’n briodol.
-
Hirdymor: Mae’n bosibl na fydd llawer o blant yn gallu dychwelyd at eu teuluoedd biolegol ac y byddant yn dibynnu ar leoliad maeth hirdymor lle gallant brofi bod yn aelod gwerthfawr o'r teulu a chael budd o'r cyngor, y cymorth a'r arweiniad mae arnynt eu hangen. Byddwch yn ymroi i ddarparu cartref i'r plentyn trwy gydol ei blentyndod, hyd nes y gall fyw'n annibynnol.
-
Brys: Pan fydd ar blant angen rhywle diogel i aros ar fyr rybudd am gyfnod byr o amser, o un diwrnod hyd at uchafswm o 7 diwrnod.
-
Seibiant / Cymorth i Deuluoedd: Mae hon yn ffordd o roi cymorth rheolaidd i deuluoedd neu ofalwyr eraill. Cyfnodau o seibiant byr ydy hyn, fel arfer dros un neu ddau benwythnos y mis, cânt eu cynllunio i gefnogi'r person ifanc a'r teulu a’u trefnu i helpu i atal y teulu neu’r lleoliad rhag chwalu.
-
Maethu rhiant a phlentyn: Hyn ydy pan fydd gennym ofalwyr maeth arbenigol sy'n darparu cartref i un neu'r ddau riant ynghyd â'u plentyn. Mae lleoliadau maeth fel hyn yn cynnwys y gofalydd maeth yn cefnogi'r teulu cyfan ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau rhianta.