Maethu
Mae arnom angen gofalwyr maeth sy’n medru canolbwyntio ar anghenion y plentyn neu’r plant sydd yn eu gofal ar yr adegau mwyaf dirdynnol ym mywyd unrhyw blentyn.
Mae’r plant sydd angen gofal yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac mae angen i ni adlewyrchu hyn ymhlith y gofalwyr maeth sydd ar gael i ni.
Ym Mro Morgannwg, ein nod yw sicrhau bod ein holl blant maeth yn derbyn gofal mewn amgylchfyd sy’n addas i’w hanghenion. Yn sgil ein hymgyrch recriwtio cyfredol, rydyn ni ar ben ffordd i fedru cydweddu plant o bob oedran a gofalwyr maeth â’r sgiliau perthnasol.
Mae ein gofalwyr maeth yn derbyn cefnogaeth drwy gydol y broses faethu, ac mae cymorth ar gael iddyn nhw 24 awr y dydd, pob diwrnod o’r flwyddyn. Mae’r arolygwyr gwaith cymdeithasol yn nhîm Gosodiadau Dros Dro a Pharhaus Bro Morgannwg yn cyd-weithio’n uniongyrchol â gweithwyr cymdeithasol y plant sy’n cael eu rhoi mewn gofal.
O ganlyniad, mae llif effeithlon o wybodaeth ar gael ym mhob achos unigol i ystyried anghenion y plant a’r gofalwyr maeth wrth drefnu gofal.