Cymwysterau
Ar hyn o bryd mae’r tîm hyfforddi’n gweithio’n agos gyda’n Coleg Addysg Bellach partner i gynnig gwobrau FfCCh ar lefel 2, 3 a 5 ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i’r rhai hynny sy’n gweithio gydag oedolion a phlant. Mae nifer rheolaidd yn dilyn yr hyfforddiant a gall bwrsari fod ar gael yn amodol ar amgylchiadau.
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon ymlaen i:
Tîm Datblygu a Hyfforddi’r gweithlu Gofal Cymdeithasol
Cyngor Bro Morgannwg
3ydd Llawr, Y Swyddfa Ddinesig
Heol Holltwn
Y Barri
Bro Morgannwg
CF63 4RU
Cadarnheir lleoedd ar gyrsiau FfCCh ond ar ôl i ymgeiswyr fynychu cyfweliad sefydlu gyda'r coleg. Ni phenderfynir ar geisiadau tan yr adeg honno. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyn cyfweliad at yr adran hyfforddi.
Nodwch: Os bydd ymgeisydd yn tynnu'n ôl neu'n cael ei dynnu'n ôl o'r wobr, bydd angen ad-daliad ar Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer cost y FfCCh, sy’n amrywio o £175-£500 ar hyn o bryd gan ddibynnu ar lefel.
Mae'r Qualification Framework for the Social Care Sector in Wales (Fframwaith Cymwysterau) yn rhestru cymwysterau ar gyfer rolau swyddi mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Mae angen nifer o gymwysterau ar weithwyr penodol ar gyfer cofrestru proffesiynol neu ar wasanaethau er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) a rhoddir eraill fel canllaw.
Nodwch: Mae nifer o gwmnïau hyfforddi annibynnol yn cynnig mynediad am ddim i FfCChau. Yn anffodus, ni all y tîm datblygu a hyfforddi roi argymhellion penodol ar yr adeg hon