Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mwynhau
Byw
Cyngor
Gweithio
‘Cofiwch y gall y Cyngor gymryd hirach i ymateb i unrhyw ohebiaeth neu gwynion oherwydd ei ymateb i Covid-19.’ Diolch am eich dealltwriaeth’
Rydym ni’n anelu at gyflawni safonau uchel ond weithiau mae pethau’n mynd o’i le. Dim ond os ydych chi’n rhoi gwybod i ni eich bod yn anhapus y gallwn ni eich helpu. Peidiwch â bod ofn cwyno. Rydym yn croesawu’ch sylwadau, y positif a’r negatif, oherwydd mae’n bosib y gallan nhw ein helpu i wella’r gwasanaethau i bawb.
Gallwch wneud eich cwyn cychwynnol yn ystod Cam 1 neu Gam 2.
Y ffordd orau i ddatrys problemau yw drwy siarad gyda’r staff sy’n gweithio gyda chi. Cysylltwch â’r person sy’n gyfrifol am eich gwasanaeth lleol neu cysylltwch â’ch swyddog cwynion a fydd yn gallu siarad â’r person hwnnw ar eich rhan. Gallwch wneud hyn wyneb yn wyneb, ar y ffôn, yn ysgrifenedig neu drwy anfon e-bost. Ni ddylai’r broses gymryd mwy na phythefnos.
Pan fyddwch yn cysylltu â’ch swyddog cwynion bydd yn gwneud trefniadau i rywun nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’ch gwasanaeth i ymchwilio i’r gwyn. Mae gennych hawl i ddisgwyl ymateb oddi wrth y Cyngor cyn pen pum wythnos. Gallwch gysylltu â’r swyddog cwynion i wneud eich cwyn cychwynnol neu ar ôl cael gair gyda’r staff sy’n gweithio gyda chi.
Swyddog Cwynion
Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymunedol
2il Lawr
Swyddfa’r Doc
Y Barri
CF63 4RT
Mae gennych chi hawl i gwyno os nad ydych chi’n fodlon ag ansawdd y gwasanaethau a dderbyniwch a’n dyletswydd ni yw edrych ar eich cwyn a cheisio ei ddatrys.