Cost of Living Support Icon

Clybiau Ieuenctid

Mae sawl clwb ieuenctid ledled Bro Morgannwg ar gael i bobl ifanc 11-25 oed.

 

Mae’r clybiau hyn yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wneud ffrindiau a chael hwyl mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd sy’n dysgu sgiliau newydd i bobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys achredu lleol a chenedlaethol ochr yn ochr â chynllun gwobrau Dug Caeredin.  

 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol i gynnal clybiau o leoliadau lleol.  Rydym yn falch o gynnal ystod amrywiol o glybiau ieuenctid, yn cynnwys un trwy gyfrwng y Gymraeg mewn partneriaeth â’r Urdd.

 

Mae ein clybiau ieuenctid yn cynnig ystod eang o weithgareddau gan gynnwys: sesiynau yn seiliedig ar broblemau, celfyddydau, chwaraeon, cyfleoedd preswyl, projectau cymunedol, pwyllgorau ieuenctid, teithiau, cyfleoedd gwirfoddoli, ffotograffiaeth, a llawer mwy. Mae croeso i wirfoddolwyr o bob oed helpu gyda’r gweithgareddau.  Mae croeso arbennig i bobl ifanc sydd wedi tyfu’n rhy hen efallai ar gyfer gweithgareddau clybiau ieuenctid ddychwelyd atom i’n helpu a magu profiad o weithio gyda phobl ifanc. 

 

Cysylltwch

Os hoffech ragor o wybodaeth am y tîm neu'r projectau cysylltwch â Hannah Adams – Swyddog Ymgysylltu a Datblygu:

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch Wasanaeth Ieuenctid y Fro ar Facebook a Twitter a rhannwch eich lluniau a’ch profiadau ar ein cyfryngau cymdeithasol: