Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Cyfeirlyfr a Chanllawiau Ymgysylltu Ieuenctid

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am gefnogi ymgysylltu a datblygu pobl ifanc o ran Ymestyn Hawliau: cefnogi pobl ifanc yng Nghymru (2000) a’r cyfeiriad a’r canllawiau dilynol ar wasanaethau Ymestyn Hawliau a chymorth i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru (2002)

 

Better outcomes for young people chartNododd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad parhaus i drechu tlodi yng Nghynllun Gweithredu Trechu Tlodi 2012-2016 a rhan allweddol o'r cynllun yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET).
 
Mae amcan gan Gyngor Bro Morgannwg i leihau NEET yn ei gynllun gwella, a rhoddir y diweddaraf i aelodau etholedig yn rheolaidd am ymgysylltu a datblygu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae Bro Morgannwg wedi datblygu Cynllun Gweithredu Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

 

 

Group of five teenagersFframwaith Ymgysylltu Ieuenctid

Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn nodi dull newydd o ddatblygu cymorth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae gan y fframwaith chwe elfen:

  • Nodi pobl ifanc sydd mewn peryg o ddatgysylltiad
  • Trefnu a chyd-drefnu cymorth yn well
  • Sicrhau bod darpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc
  • Cryfhau sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd am gyflogaeth
  • Atebolrwydd mwy am ganlyniadau gwell ar gyfer pobl ifanc
  • Tracio a phontio cryfach i bobl ifanc

 

Bydd dau gynnig i bobl ifanc trwy'r fframwaith hefyd:

  1. Y cyntaf yw pennu pwynt cyswllt (gweithiwr arweiniol) ar gyfer y bobl ifanc sydd mewn perygl i helpu i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu mewn ffordd ar y cyd wedi’i chyd-drefnu ac sy’n gweithio er mwyn bodloni eu hanghenion
  2. Yr ail yw datblygu Gwarant ieuenctid rhagweithiol a chadarnhaol a fydd yn helpu i sicrhau y gall pob person ifanc gael mynediad at leoliad dysgu ôl-16 addas.

Dan yr YEPF, bydd Awdurdod Lleol Bro Morgannwg yn cymryd cyfrifoldeb arwain strategol allweddol ar gyfer Gweithredu’r Fframwaith. Bydd angen gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru a darparwyr hyfforddiant lleol. Bydd gan yr YEPF uwch swyddog ALl a fydd yn gweithredu fel Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu (EPC).

Two teenage friends reading on grassTrefniadau Lleol

Fel rhan o Gynllun Gweithredu YEPF bydd angen i adrannau mewnol amrywiol y Cyngor a sefydliadau ieuenctid allanol weithio ar y cyd yn fwy mewn ffordd gydlynol. Bydd gan ysgolion a darparwyr hyfforddiant rolau a pherthnasau allweddol gyda'r Cyngor i sicrhau bod ysgolion a darpariaethau addysg yn effeithiol, effeithlon ac yn ychwanegu gwerth am arian.

 

Monitrir lefel y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, yr ymyriadau sy’n cael eu gwneud, a chanlyniadau ar gyfer pobl ifanc gan y Grŵp Strategol NEET, a fydd yn ei dro yn rhoi adborth i’r Tîm Rheoli Corfforaethol, a’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

 

Careers Wales logoBydd Gyrfa Cymru yn chwarae rôl hollbwysig o ran cefnogi’r gwaith o adnabod yn gynnar bobl ifanc cyn-16 yr ystyrir eu bod mewn perygl a thracio a chefnogi gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ôl 16. Byddant yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ddewisiadau gyrfa ac ymgysylltu pobl ifanc yn y Broses Cais Cyffredin (CAP).

 

Bydd hefyd yn sicrhau bod gan yr ALl fynediad at wybodaeth am fodel 5 Haen Llywodraeth Cymru. Mae’r model yn cynnig gwybodaeth am bobl ifanc 16-18 oed sydd mewn perygl o beidio â bodmewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd. Mae hefyd yn nodi faint o bobl ifanc sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg rôl hollbwysig o ran darparu gweithwyr arweiniol a staff cymorth i fod yn rhan o’r pecyn ymyrraeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. 

 

Bydd amrywiaeth o wasanaethau addysg arbenigol a darparwyr hyfforddiant yn yr YEPF. Bydd hyn yn sicrhau bod cymysgedd priodol o ddarpariaeth ar gael er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc. 

 

Mae gan y Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu (EPC) gyfrifoldeb fel y brif sianel ar gyfer dosbarthu gwybodaeth ar lefel strategol. Bydd yn cyd-drefnu’r gwaith rhwng Gyrfa Cymru, adran Addysg yr Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Arbenigol, Gwasanaeth Ieuenctid a darparwyr hyfforddiant allanol. Bydd hefyd yn cyd-drefnu gwybodaeth am Adnabod Cynnar a rhoi cymorth 1-1 a chyngor ar yrfaoedd.


Bydd y Swyddog Ymgysylltu a Datblygu yn chwarae rôl hollbwysig gan sicrhau bod gweithiwyr arweiniol yn adrodd ar gynnydd a chanlyniadau pobl ifanc a sicrhau bod data adnabod cynnar yn cael ei ddefnyddio i greu’r effaith fwyaf. Bydd hefyd yn gweithio’n agos gyda’r EPC i sicrhau bod darparwyr yn sicrhau canlyniadau a chyfleoedd i bobl ifanc i symud i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Manyleb ar gyfer rôl ‘gweithiwr arweiniol’

Bydd gan weithwyr arweinol berthynas uniongyrchol gyda’r person ifanc, byddant yn bwynt cyswllt cyson iddo ac yn ei gefnogi wrth iddo symud ymlaen, ac yn ei helpu i fagu a datblygu gwydnwch hirdymor y bydd ei angen arno mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Gallent fod yn hyfforddwyr dysgu, cynorthwywyr cymorth dysgu, gweithwyr ieuenctid, Swyddogion Lles Addysg, gweithwyr sector gwirfoddol neu weithwyr darparwyr hyfforddiant.

 

Ochr yn ochr â’u rôl, bydd gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u nodi fel gweithwyr arweiniol yn gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â pherson ifanc ac am adrodd yn ôl yn ffurfiol i’r Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu os nad yw’r pecyn cymorth a’r ymyriadau wedi’u rhoi ar waith ar gyfer unigolyn yn helpu i ailymgysylltu'r person ifanc a'i symud yn ei flaen.

Mae'r cyfrifoldebau penodol sy’n gysylltiedig â’r gweithiwr arweiniol fel a ganlyn:

  • bod yn unigolyn a enwir ar gyfer baich achosion o bobl ifanc fel y cytunwyd arno gan y sefydliad y mae'n gweithio iddo gyda’r EPC a’r bartneriaeth ehangach
  • rhoi cymorth uniongyrchol i’r person ifanc i helpu i fagu gwydnwch a/neu gydlynu cymorth gan amrywiaeth o asanaethau cymorth eraill
  • gweithredu fel hyrwyddwr ar gyfer y person ifanc i sicrhau ei fod yn cael y cymorth y mae ei angen arno
  • rhoi adborth ar ddatblygiad y person ifanc i'r EPC i allu asesu a yw cymorth yn cael yr effaith a ddymunir

Bydd gweithwyr allweddol yn cael mynediad at fanylion cyfeiriadur darpariaeth, e-hyfforddiant ar wasanaethau gwybodaeth ieuenctid, gwybodaeth am yrfaoedd, gwybodaeth am ddarparwyr a mynediad at system monitro a chofnodi.

 

Bydd gweithwyr arweiniol yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu arfer da ac i edrych ar ymyriadau ac adborth presennol ar effeithiau a chanlyniadau ar gyfer pobl ifanc.

Cylchlythyron Partneriaeth Gwasanaethau Ieuenctid