Cyn i chi wneud cwyn
Gallai cwyn gynnwys:
-
Y cyngor yn methu darparu gwasanaeth
-
Oedi o ran ymateb (neu ddim ymateb) i’ch cais o fewn yr amserlen benodol
-
Y cyngor yn methu dilyn y rheolau a gytunwyd, ei gyfrifoldebau statudol neu safonau gwasanaeth a gyhoeddwyd
-
Agwedd amharod ei gymwynas rhywun sy'n gweithio i'r cyngor Os ydych yn teimlo'ch bod wedi dioddef o ryw fath o ragfarn neu wahaniaethu ar gam
Nid yw cwyn:
-
Yn gais cychwynnol am wasanaeth, megis adrodd am oleuadau stryd diffygiol. Rhoi gwybod am broblem i Gyngor Bro Morgannwg
-
Yn apêl yn erbyn penderfyniad a "wnaed yn briodol" gan gorff cyhoeddus
-
Yn ffordd o geisio newid i ddeddfwriaeth neu benderfyniad ar bolisi “a wnaed yn briodol”
-
Yn ffordd o lobïo grwpiau/sefydliadau i geisio hyrwyddo achos
Unrhyw un sydd wedi defnyddio, neu sydd angen, un o wasanaethau’r cyngor. Gallwch hefyd gwyno ar ran rhywun arall nad yw, oherwydd gwahanol resymau, yn gallu cwyno drostynt eu hunain (cyhyd â bod ganddynt eu caniatâd ysgrifenedig).
Dylech ddwyn eich cwyn i sylw'r cyngor cyn gynted ag y bo modd ond mae gennych hyd at 12 mis ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw broblem i gyflwyno’ch cwyn. O dan amgylchiadau eithriadol mae'n bosibl ymestyn yr amserlen hon.
Mwy o wybodaeth am gwynion: