Rheolwr Gyfarwyddwr ac Adnoddau
14 Penarth Pier Icon
Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu ystod o wasanaethau cefnogaeth i alluogi’r Cyngor i weithredu’n effeithiol, gan gynnwys adnoddau dynol, TG, gwasanaethau cyfreithiol a chyllid. Mae hefyd yn cynnwys swyddogaeth gwasanaethau democrataidd y Cyngor sy’n gweinyddu’r amrywiol bwyllgorau cabinet a chyfarfodydd cyngor lle gall aelodau etholedig wneud penderfyniadau a chraffu ar waith y sefydliad.
Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau hir-dymor y sefydliad, trefniadau rheoli perfformiad, cydlynu’r modd y byddwn yn cyfathrebu gyda’r cyhoedd a rhedeg canolfan Cyswllt 1 Fro.
Mae’r gyfarwyddiaeth hefyd yn cynnwys y Gwasanaeth Adfywio a Chynllunio sy’n rheoli datblygiadau newydd, sicrhau buddsoddiad a gweithgaredd adfywio a hyrwyddo Bro Morgannwg fel cyrchfan i ymwelwyr.