System bleidleisio
Aelodau’r Etholaeth
Etholir aelodau etholaethol gan ddefnyddio'r system y cyntaf i’r felin. Etholir yr ymgeisydd sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau.
Aelodau Rhanbarthol
Etholir aelodau rhanbarthol drwy fath o gynrychiolaeth gyfrannol a elwir yn 'System Aelodau Ychwanegol', gydag etholwyr yn pleidleisio dros blaid wleidyddol. Esbonnir y dull yn glir ar wefan Senedd Cymru.
Pwy all bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais?
Ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, rhaid i chi fod:
-
Wedi cofrestru i bleidleisio ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu cysylltwch â Chyngor Bro Morgannwg.
-
yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad (‘diwrnod y bleidlais’)
-
Yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig neu ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad*.
-
Yn ddinesydd tramor cymwys gyda chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnoch.
Cofiwch y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru am y tro cyntaf.
Gwirio a Chyfrif
Bydd proses wirio a chyfrif Etholiad Senedd Cymru yn cael ei chynnal mewn canolfannau cyfrif lleol gyda’r Ganolfan Ranbarthol yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo, 7 Gladstone Road, Y Barri, CF62 8NA lle y datgelir canlyniad terfynol yr Etholiad. Mae'r broses sydd i'w dilyn yn gofyn am ddatganiadau lleol o'r canlyniad ym mhob ardal etholaeth ac yna datganiad o’r canlyniad cyffredinol wedi'i gyd-gasglu ar gyfer Rhanbarth Canol De Cymru.
Bydd dau Lleoliad Cyfrif:
Canalfan Celfyddydau Memo
Ffordd Gladstone
Y Barri
CF62 8NA
|
|
Canalfan Hamdden y Barri
Stryd Greenwood
Y Barri
CF63 4JJ
|
Lleoliadau Dilysu a Chyfrif
Amserlen Dilysu a Chyfrif
Bydd y broses wirio ar gyfer Etholiad Senedd Cymru yn dechrau o 9.00am ddydd Gwener 07 mis Mai 2021.
Gwiriadau anffurfiol o Bapurau Enwebu
Byddwn yn cynnig gwiriadau anffurfiol o bapurau enwebu i Ymgeiswyr a Phleidiau. Rydym yn annog gwiriadau anffurfiol yn gryf.
I gyflwyno eich papurau enwebu am wiriad anffurfiol, sganiwch neu tynnwch lun o'ch ffurflenni a’u e-bostio at rro@valeofglamorgan.gov.uk
Cyflwyno eich Papurau Enwebu
Oherwydd COVID-19, rhaid trefnu apwyntiad i gyflwyno eich Papurau Enwebu. Bydd apwyntiadau ar gael o ddydd Mawrth 23 Mawrth 2021. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich Papurau Enwebu yw 4pm ar 8 Ebrill 2021.
I drefnu apwyntiad ar gyfer cyflwyno eich Papurau Enwebu, e-bostiwch rro@valeofglamorgan.gov.uk