Manylion bywgraffyddol
Cafodd Lis ei hethol gyntaf yn aelod o Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2004, a’i hail-ethol ym mis Mai 2012. Ar ôl etholiad 2012, penodwyd Lis yn Aelod Cabinet, ac yna’n Ddirprwy Arweinydd yn 2016.
Yn Bennaeth Entrenpreneuriaeth Cymdeithasol gynt ym Mhrifysgol De Cymru, mae Lis hefyd wedi bod yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru a’r Senedd ar Fentrau Cymdeithasol a Chydweithfeydd. Mae wedi rhedeg ei busnes ei hun, wedi gweithio i gwmni mawr rhyngwladol ac fel ymgynghorydd allanol i NESTA, sefydliad arloesedd. Mae wedi bod ynghlwm wrth ddarparu syniadau arloesedd i brojectau cymorth cymuned yn Uganda ac yn 2012, cafodd ei gwahodd i fod yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, i gydnabod ei chyfraniad at fentergarwch cymdeithasol yng Nghymru.