Manylion bywgraffyddol
Ar ôl graddio o Goleg y Brifysgol Abertawe, gweithiodd y Cynghorydd Geoffrey Cox i British Steel cyn sefydlu ei fusnes hyfforddi ac ymgynghori ei hun.
Mae wedi ymddeol bellach, a’i swydd olaf oedd gweinyddydd i Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, Llandaf.
Bu Geoff yn byw yn y Bont-faen er 1971, a chafodd ei ethol i Gyngor Bro Morgannwg mewn isetholiad yn 2001 i gynrychioli ward y Bont-faen.
Mae’n aelod o Gyngor Tref y Bont-faen a Llanfleiddan, a bu’n Faer y Bont-faen yn 2000/01.
Swyddog llywodraeth leol wedi ymddeol yw ei wraig, Susan. Mae ganddynt ddau o blant, ac mae un ohonynt yn byw yn Sbaen gyda’i theulu.