Manylion bywgraffyddol
Bu Anne yn byw yn y Barri ers 1979, a chafodd ei phlant, sy’n oedolion erbyn hyn, eu magu yn yr ardal a’u haddysgu mewn ysgolion lleol. Mae Anne newydd ymddeol o’i gwaith fel Cynorthwyydd Personol/Ysgrifenyddes Dyddiadur i’r Aelod Cynulliad Jane Hutt ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.
Bu Anne yn gwasanaethu ar Gyngor Tref y Barri dros ward Cadog o 1987 tan 1995, ac fel Cynghorydd Bwrdeistref y Fro dros yr un ward o 1994 tan yr ailstrwythuro. Wedi hynny, parhaodd i wasanaethu fel Cynghorydd Llafur ar Gyngor Bwrdeistref y Fro dros ward Cadog.
Mae Anne yn awyddus i sicrhau bod Cadog, y Barri a’r Fro yn llefydd diogel i fyw, gweithio a magu teulu ynddynt. Mae Anne yn credu y gellir cyflawni hyn, ond er mwyn gwneud, mae angen i ni i gyd gydweithio fel cymuned.
Mae Anne a chynghorwyr eraill Cadog ar gael bob amser os oes angen cymorth ar etholwyr, a gellir cysylltu â hi drwy lythyr, galwad ffôn ac e-bost (gweler y manylion uchod).