Manylion bywgraffyddol
Mae Neil wedi bod yn Aelod o Gyngor Bro Morgannwg yn cynrychioli Ward Cadoc yn y Barri ers 1988 yn yr hen Fwrdeistref, lle roedd yn Ddirprwy Arweinydd cyn ad-drefniad Llywodraeth Leol.
Yna, roedd Neil yn Gadeirydd Awdurdod Cysgodol Bro Morgannwg rhwng 1995 ac 1996, yn ystod cyfnod pontio ad-drefniad llywodraeth leol. Mae wedi bod yn Arweinydd Grŵp Llafur y Fro ers sawl blwyddyn.
Cafodd ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg o fis Rhagfyr 2006 tan fis Mai 2008 ac yn Arweinydd Gweithredol y Cyngor o fis Mai 2012 tan 2017, ar y cyd â Grŵp Annibynnol Llanilltud yn Gyntaf.
Ers yr etholiadau ym mis Mai 2017, mae Neil wedi bod yn Arweinydd y Grŵp Llafur - prif wrthblaid y Cyngor.
Ym mis Mai 2019, roedd Neil eto’n Arweinydd Gweithredol y Cyngor gan ffurfio clymblaid â Llafur, Grŵp Annibynnol y Fro a Grŵp Annibynnol Llanilltud yn Gyntaf. Maent yn Gabinet Clymbleidiol â 7 aelod.
Mae Neil wedi byw yn Y Barri ers 1979 gyda’i wraig Anne, sydd hefyd yn Gynghorydd ym Mro Morgannwg. Mae ganddo ddau o blant sydd bellach yn oedolion ac a gafodd eu haddysg yn lleol, ac mae’n dad-cu balch i 3 o blant.
Roedd Neil yn Brif Swyddog Safonau Masnach Cynghorau Sir De Morgannwg a Chaerdydd tan iddo ymddeol yn gynnar yn 2002.
Mae’n actif iawn yn ei ward ac mae’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd i helpu'r etholaeth.
Mae’n gefnogwr rygbi brwd, ac yn cefnogi tîm Cymru ynghyd â bod yn aelod o Glwb Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi Gleision Caerdydd. Mae’n treulio gweddill ei amser rhydd yn edrych ar ôl ei wyrion/wyresau, pryd bynnag y mae ganddo amser.