Manylion bywgraffyddol
Ganed y Cynghorydd Thomas yn Sain Tathan a chael ei addysg yn yr ysgol gynradd yno ac yn Kings School, Caerdydd. Ar ôl iddo adael yr ysgol, aeth i Goleg Amaeth Brynbuga cyn dychwelyd i fferm y teulu yn Nhrefflemin.
Cafodd ei ethol i Gyngor Bro Morgannwg dros ward Sain Tathan yn 1999.
Bu’r Cynghorydd Thomas yn Is-gadeirydd ar Bwyllgor Iechyd yr Amgylchedd am flwyddyn, ac yna’n Gadeirydd ar Bwyllgor Craffu Cymunedau Diogel ac Iach o 2000-01.
Yn ogystal, bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ac ar Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.