Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD MERCHER, 14 RHAGFYR, 2016 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG
GOFYNNIR I AELODAU GYMRYD SYLW O AMSER Y CYFARFOD.
CYN Y CYFARFOD AM 6.00PM BYDD
ENNYD O FYFYRIO ANGHREFYDDOL
Agenda
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed rhestr yr aelodau.
(b) Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
3. Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2016.
[Gweld Cofnod]
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
[Gweld Cofnod]
5. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol (a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Mahoney a Christopher Williams) –
“ Newid darpariaeth 4.23.5 Pleidlais a Gofnodwyd yn y Cyfansoddiad i:-
“4.23.5 Pleidlais a Gofnodwyd
Pob pleidlais gan gynghorydd ym mhob cyfarfod cyngor i’w cofnodi yn awtomatig.”
[Gweld Cofnod]
6. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol (a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Mahoney a Christopher Williams) –
“Cofnodion presenoldeb pob cynghorydd yn y cyngor llawn a phob pwyllgor arall y maent yn aelod ohonynt i’w dangos yn glir ar eu tudalen aelod ar wefan Cyngor Bro Morgannwg a’i ddiweddaru yn fisol.”
[Gweld Cofnod]
Adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr –
7. Defnydd o Rymoedd Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Swyddog Monitro –
8. Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor / y Pwerau a Ddirprwyir i Swyddogion.
[Gweld Cofnod]
9. Cod ymddygiad Aelodau a Swyddogion yn Ymwneud â Materion Cynllunio.
[Gweld Cofnod]
10. Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor
D.S. Mae’r adroddiad sy’n destun y cyfeiriad o ran Eitem Agenda 10(a) uchod eisoes wedi cael ei ddosbarthu i Aelodau gyda’r agenda Cabinet ar gyfer 28 Tachwydd 2016.
**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa’r Cabinet yn ôl y gofyn**.
11. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.
12. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
[Gweld Cofnod]
13. Cwestiynau gan y cyhoedd –
Daeth tri chwestiwn i law sydd wedi’u hatodi.
[Gweld Cofnod]
14. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
15. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
8 Rhagfyr 2016
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Wyatt, Ffôn: Y Barri (01446) 709408
E-bost: JRWyatt@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder: Gallai’r cyfarfod hwn gael ei ffilmio i’w ddarlledu’n fyw neu fel recordiad ar wefan y Cyngor Sir – ar ddechrau’r cyfarfod bydd y Maer yn cadarnhau a yw’r cyfarfod cyfan neu ran ohono’n cael ei ffilmio. Gallai’r delweddau a’r recordiadau sain gael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi gan y Cyngor.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. Rhif Ffôn (01446) 709408 neu drwy e-bost – jrwyatt@valeofglamorgan.gov.uk