Cost of Living Support Icon
​

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad o Gyfarfod   SESIWN CRAFFU PERFFORMIAD AR Y CYD EITHRIADOL (CYFARFOD CYFUN O BWYLLGORAU CRAFFU DECHRAU'N DDA, BYW'N DDA, LLE AC ADNODDAU)

 

Dyddiad ac amser          DYDD MERCHER, 11 CHWEFROR, 2026 AM 5.00 P.M.  

y Cyfarfod                      

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2025.

[Gweld Cofnod]

 

3.        Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

DS: Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno cofrestru i siarad ar unrhyw eitem ar yr agenda isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro a rhoi sylw i Bolisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor a’r Canllaw Cyfranogiad Craffu.

 

[Gweld Cyflwyniad Briffio Cyllideb]

Cyfeiriadau –

4.         Cynigion ar gyfer Ymgynghori ar Gyllideb Gychwynnol 2026/27 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 i 2030/31 – Cabinet: 15 Ionawr, 2026.

[Gweld Cofnod]

5.        Cynigion Rhaglen Gyfalaf Drafft 2026/27 i 2030/31 – Cabinet: 15 Ionawr, 2026.

[Gweld Cofnod]

 

6.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

7.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

30 Ionawr, 2026

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau'r Pwyllgorau isod:

 

Pwyllgor Craffu Dechrau'n Dda

Cadeirydd: Y Cynghorydd R.R. Thomas;

Cynghorwyr: Y Cynghorwyr A. Asbrey, J. Aviet, W. Gilligan, E. Goodjohn, S.J. Haines, S.M. Hanks, W.A. Hennessy, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson a H.M. Payne (Is-gadeirydd)

 

Hefyd wedi'u gwahodd fel Aelodau cyfetholedig: M. Werrett (Yr Eglwys yng Nghymru), Dr. M. Price (Yr Eglwys Gatholig Rufeinig), L. Barrowclough (Llywodraethwr Rhiant – Sector Cynradd), K. Riddick (Llywodraethwr Rhiant – Sector Uwchradd)

 

Pwyllgor Craffu Byw'n Dda

Cadeirydd: Y Cynghorydd A.M. Collins;

Cynghorwyr: G. Bruce, I.R. Buckley; C.A. Cave, B. Dodd, S.M. Hanks, W.A. Hennessy, S. Lloyd-Selby, B. Loveluck-Edwards (Is-gadeirydd), J. Lynch-Wilson, M.J.G. Morgan a N.C. Thomas

 

Pwyllgor Craffu Lle

Cadeirydd: Y Cynghorydd S. Lloyd-Selby;

Y Cynghorwyr: G.M. Ball, C.E.A. Champion, P. Drake, V.P. Driscoll, A.M. Ernest, M.J. Hooper, C. Iannucci-Williams (Is-gadeirydd), J.M. Norman, E. Penn, I.A.N. Perry, C. Stallard a S.T. Wiliam

 

Pwyllgor Craffu Adnoddau

Cadeirydd: Y Cynghorydd J. Protheroe;

Y Cynghorwyr: G.M. Ball, S. Campbell, G.D.D. Carroll, P. Drake, R. Fisher, C.P. Franks, E. Goodjohn (Is-gadeirydd), E.J. Goodjohn, Dr. I.J. Johnson, B. Loveluck-Edwards, J.M. Norman a N.J. Wood

 

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709457

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx