Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    CYFARFOD BLYNYDDOL CYDBWYLLGOR Y GWASANAETHAU RHEOLIADOL A RENNIR  

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                     DYDD MERCHER, 25 MEHEFIN, 2025 AM 10.00 A.M.

 

Lleoliad                         SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG CYNGOR BRO MORGANNWG, HEOL HOLTON, Y BARRI, CF63 4RU

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Penodi Cadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Penodi Is-gadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Ymddiheuriadau am absenoldebau.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2025.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur buddiannau o’r fath dan God Ymddygiad y Cyngorau.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 –

6.         Datganiad o Gyfrifon heb eu Harchwilio Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2024/25.   (Gweld Atodiad)

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai –

7.        Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2024-25.

[Gweld Cofnod]

8.        Cynllun Busnes Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2025-26.  (Gweld Atodiad)

[Gweld Cofnod]

9.        Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Iechyd a Diogelwch y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2025-26.

[Gweld Cofnod]

 

10.      Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan I).


RHAN II

 

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

 

11.       Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

19 Mehefin, 2025

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985 –

Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at

M. Thomas, Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709279

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Y Cynghorwyr M. Lewis a H. Williams
  • Cyngor Caerdydd – Y Cynghorwyr N. Mackie a M. Michael
  • Cyngor Bro Morgannwg – Y Cynghorwyr P. Drake a R. Sivagnanam

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709279

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx