Rheoli Perfformiad
Mae’r Cyngor yn sicrhau ei ddyheadau drwy ddefnyddio gwybodaeth perfformiad i wella’r ffordd rydym yn gweithio.
Rydym yn gwneud hyn drwy gymharu ein perfformiad dros amser a chydag eraill. Mae hyn yn ein galluogi i nodi camau gweithredu i'w gwella, nodi a lleihau risgiau i achosi gwelliant gwasanaeth a chyflawni canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
Mae proses rheoli perfformiad effeithiol yn darparu systemau rheoli a diwylliant trefniadol sy'n canoblwyntio ar welliant parhaus drwy wybod ble rydym, yr hyn y mae angen inni ei gyflawni a sut i fesur ein cynnydd, dod o hyd i broblemau perfformiad a darparu opsiynau i'w gwella.
Mae Rheolaeth Perfformiad yn darparu llawer o fuddion:
I’r cwsmer/dinesydd:
- Darparu gwasanaethau sy’n gwella’n barhaus.
- Darparu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion defnyddwyr.
- Gwneud y Cyngor yn fwy atebol i drigolion a’r gymuned.
- Darparu sail ar gyfer cyfathrebu effeithiol.
I’r cyngor:
- Nodi blaenoriaethau corfforaethol a sicrhau bod pawb yn cydweithio ac yn canolbwyntio ar eu sicrhau.
- Datblygu dealltwriaeth o anghenion hyfforddi staff ac aelodau etholedig.
- Sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni ar bryd yn unol â safonau a gytunwyd a chyda'r adnoddau a sgiliau sydd eu hangen. Darparu tystiolaeth o welliant parhaus.
I aelodau etholedig:
- Mae aelodau o’r Cabinet yn ymwneud yn llwyr â gwaith cyfarwyddiaethau ac yn derbyn briffiadau prydlon ar faterion.
- Mae aelodau craff yn gallu monitro a herio perfformiad.
I staff:
- Darparu eglurdeb a dealltwriaeth o ble mae pob unigolyn yn cyfrannu at weledigaeth a chyfeiriad yr adran.
- Cynyddu bodlonrwydd gyda swyddi, a balchder a hunan-barch drwy egluro rolau, targedau a llwyddiannau.
- Cynnig cyfle ar gyfer dysgwyr a datblygiad.
Mae'r ddogfen ar y Broses Rheoli Perfformiad yn amlinelllu mecanweithiau’r Cyngor ar gyfer monitro, mesur ac asesu ei berfformiad. Yn gysylltiedig â’r ddogfen hon yw cylch cynllunio blynyddol sy'n nodi'r gweithgareddau perfformiad allweddol a fydd yn cael eu cwblhau'r flwyddyn ariannol honno.
Adroddiadau Chwarterol a Dangosyddion Perfformiad
Fel rhan o’i adolygiad o’i Fframwaith Rheoli Perfformiad yn 2016, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Corfforaethol (2016-20) newydd sy’n adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn nodi 4 Canlyniad Llesiant a 8 Amcan i’r Cyngor. Caiff y Cynllun Corfforaethol ei fonitro bob tri mis gan Adroddiad Perfformiad Iechyd Corfforaethol cyffredinol a chaiff ei ategu gan adroddiadau perfformiad bob tri mis penodol ar gyfer pob un o’r pedwar Amcan Llesiant. Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgorau Craffu wedi’u hail-alinio gyda’r Canlyniadau Llesiant sydd yn y Cynllun Corfforaethol gydag adroddiadau ar berfformiad yn y Cyngor yn adlewyrchu’r trefniadau hyn. Bydd yr agwedd newydd yn galluogi’r Aelodau i ganolbwyntio ar graffu ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyflawni Canlyniadau Llesiant y Cyngor.
Mae nifer o Ddangosyddion Perfformiad (DPau) wedi’u cytuno gan y Cyngor ar lefel gymunedol (Dangosyddion y Boblogaeth) ac ar lefel leol (DPau Lleol) i helpu i ddangos yn well gynnydd o ran cyflawni ein Canlyniadau Llesiant. Mae’r rhain yn creu Fframwaith Mesurau Perfformiad Corfforaethol (MPC) y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cyfrannu at ddangosyddion y boblogaeth trwy ei waith, ond, nid yw’n gyfan gwbl gyfrifol amdanynt a bydd cyflawni gwelliant o ran y dangosyddion hyn yn cynnwys ystod eang o sefydliadau yn gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol. Ar lefel leol, mae ein DPau yn ein helpu i ddeall pa mor dda rydym yn darparu ein gwasanaeth a’n gweithgareddau ac yn canolbwyntio ar a yw cwsmeriaid yn fwy ffodus o ganlyniad i’r hyn rydym yn ei wneud.
Mae adroddiadau perfformiad wedi’u llunio i’w gwneud hi’n haws i asesu cynnydd cyffredinol mewn perthynas â phob Canlyniad ac Amcan Llesiant, tra’n parhau i roi gwybodaeth ategol fanwl sy’n ymwneud â gweithrediadau a dangosyddion. Adroddir ar y rhain bob tri mis i Bwyllgorau Craffu a’r Cabinet.
Mae dyletswydd ar y Cyngor i gymharu ei berfformiad dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac mae wedi casglu setiau data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a rhai statudol yn ogystal ag adrodd arnynt ar gyfer 2017/18. Mae hefyd wedi ymrwymo i gasglu data ar gyfer y set arfaethedig o fesurau ar gyfer 2018/19.
Chwarter 1 2019/20
- Cynllun Corfforaethol - Crynodeb
Chwarter 3 2016/17
Chwarter 1 2016/17
Chwater 4 2016/17
Chwarter 2 2016/17
Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) & Dangosyddion Strategol Cenedlaethol (NSI)