Bydd y camau gweithredu yn y cynllun drafft yn drawsbynciol ac yn cyfrannu at nifer o themâu, yn ogystal â'n pedwar Amcan Lles. Mae'r themâu hyn wedi'u disgrifio isod.
• Prosiect Sero - cyflawni ein hymrwymiadau i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac i ymateb i'r argyfwng natur. Mae hyn yn cynnwys strategaeth seilwaith gwyrdd, gwelliannau i'n tai, ein hysgolion a’n hadeiladau eraill, hyrwyddo teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â ffocws ar gaffael ac ymgysylltu â'r gymuned.
• Capasiti’r Gymuned - cynyddu capasiti o fewn ein cymunedau gan sicrhau bod ganddynt lais cryfach a'u bod yn gallu dylanwadu ar wasanaethau a gweithgareddau yn y Fro a'u llywio. Bydd pob un o’r gweithgareddau a nodir yn y Cynllun yn canolbwyntio’n fwy ar ymgysylltu â’r gymuned. Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd newydd ei chyhoeddi a byddwn yn parhau i sgwrsio â’r gymuned am y newid yn yr hinsawdd. Byddwn hefyd yn cymryd camau i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc ac i alluogi pobl i leisio eu barn yn fwy ar waith y Cyngor.
• Caledi - bodloni anghenion y rheiny sy'n profi caledi, er enghraifft anawsterau ariannol, angen am dai neu anawsterau cael cyflogaeth addas. Mae hyn yn cynnwys lleihau digartrefedd, cyngor ariannol, y siop un stop, gwasanaethau budd-daliadau a chyflogaeth, a phrosiectau tlodi bwyd, gan gynnwys prosiectau yn ein hysgolion i gefnogi disgyblion a'u teuluoedd.
• Gofal a Chymorth - bodloni anghenion ein trigolion mwy agored i niwed, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal a chymorth a gwybodaeth i'w cadw'n ddiogel ac yn iach gan roi sylw dyledus i'w lles corfforol a meddyliol. Mae'r cynllun yn nodi amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi pobl gan gynnwys rhoi mwy o gyfleoedd i’r henoed, diogelu ac amddiffyn y cyhoedd, gweithio gyda phlant a'u teuluoedd a mwy o integreiddio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â chanolbwyntio ar les disgyblion mewn ysgolion.
• Trawsnewid - mae hyn yn dwyn ynghyd waith gyda'r gymuned a gwaith i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ond hefyd y defnydd o’n technoleg a’n hasedau, datblygu'r gweithlu a phrosiectau arloesol a chyfleoedd i newid sut rydym yn gweithio ar draws yr holl wasanaethau o addysg a gofal cymdeithasol i reoli gwastraff.
• Seilwaith - buddsoddi yn ein hysgolion a'n tai a sicrhau bod gennym y seilwaith cywir yn y Fro i gefnogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ac adeiladu cartrefi cyngor newydd yn ogystal â gweithio drwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ganolbwyntio ar gynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd ar draws De-ddwyrain Cymru.