Ymgynghoriad ar Gyllideb 2022/23

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ar ei gynnig cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Ein safle

Ar hyn o bryd mae Cyngor Bro Morgannwg yn wynebu llawer o heriau ariannol ar ôl degawd o gyni ac effaith sylweddol Covid-19.


Mae llawer o gamau eisoes wedi'u cymryd i leihau costau, megis gwerthu gwasanaethau, darparu gwasanaethau mewn partneriaeth a chydweithio â chynghorau eraill.

 

Fodd bynnag, mae’r gost ar gyfer darparu gwasanaethau yn dal i godi ac yn achosi mwy o bwysau nag yn y blynyddoedd blaenorol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, amcangyfrifir y bydd y pwysau cost ychydig yn llai na £27 miliwn. Mae hyn yn cael effaith fawr ar gynllunio'r gyllideb.


Daw cyllideb y Cyngor o dair ffynhonnell:

 

  • Y Dreth Gyngor a delir gan breswylwyr (33% o gyfanswm y gyllideb).
  • Ardrethi Busnes a delir gan fusnesau (18%).
  • Grantiau ariannol gan Lywodraeth Cymru (49%).

Er nad ydym yn gwybod eto beth fydd setliad Llywodraeth Cymru, bydd hyd yn oed y senario orau yn dal i adael diffyg mawr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i daliadau'r dreth gyngor gan breswylwyr gynyddu fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau. 


Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ychwanegol i ni i helpu gyda chostau pandemig y coronafeirws, ond nid oes disgwyl i hynny barhau. Disgwylir i nifer o ffactorau eraill hefyd effeithio'n negyddol ar sefyllfa ariannol y Cyngor, gan gynnwys prisiau ynni cynyddol a newidiadau i daliadau Yswiriant Gwladol.


Mae gan y Fro hefyd boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o blant ag anghenion ychwanegol. Mae'r grwpiau hyn fel arfer yn dibynnu'n fwy ar ein gwasanaethau.

Cynnydd yn y Dreth Gyngor

Rydym wedi paratoi rhagamcanion ar gyfer amrywiaeth o bosibiliadau, sy’n ymestyn o ostyngiad 1% yn setliad Llywodraeth Cymru i gynnydd o 4.42%, a fyddai'r un cynnydd â'r llynedd.


Ym mhob un o'r senarios hynny, rydym wedi rhagweld effaith cynnydd 3.2% a 3.9% yn y Dreth Gyngor. Rydym hefyd wedi ystyried effaith cynnydd i 7.05% - a fyddai'n dod â'r Fro i gost gyfartalog y dreth gyngor ar gyfer Cymru. Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, byddai diffyg cyllid o hyd a fyddai'n gofyn i'r Cyngor leihau gwariant mewn rhai meysydd.


Byddai pob band eiddo yn gweld cynnydd misol o:

 

Ymgynghoriad ar y Gyllideb - Cynnydd yn y Dreth Gyngor

   Band A Band B  Band C  Band D  Band E        Band F  Band G Band H Band I 
Cynnydd o 3.2%   £2.43   £2.84  £3.24  £3.65  £4.46  £5.27 £6.08 £7.29 £8.51
Cynnydd o 3.9% £2.94  £3.43  £3.92  £4.41  £5.39  £6.37 £7.35 £8.82 £10.29
Cynnydd o 4.2% £3.17 £3.69 £4.22 £4.75 £5.80 £6.86 £7.91 £9.50 £11.08
Cynnydd o 7.05%  £5.32  £6.20  £7.09  £7.98  £9.75  £11.52 £13.30 £15.96 £18.61

Dweud eich dweud

Mae'r Cyngor yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch beth fyddai eu dewis i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb. Llenwch yr arolwg byr i nodi pa newid y byddai'n well gennych ei weld, a'r gwasanaethau sydd bwysicaf i chi.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.

 

Os na allwch gwblhau ein harolwg ar-lein neu os hoffech gyflwyno adborth manylach, anfonwch e-bost i:

 

consultation@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 700111.

  • Pam na all y Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn i ddarparu ar gyfer y diffyg?

    Mae'r Cyngor yn cadw gwahanol fathau o gronfeydd wrth gefn.

     

     


    Mae'r Gronfa Gyffredinol fel arfer yn cael ei chynnal ar oddeutu 5% o'r gyllideb sylfaenol ac fe'i hystyrir i'w defnyddio ar gyfer treuliau nas rhagwelwyd.

    Mae cronfeydd wrth gefn wedi'u marcio gan wasanaethau ac yn cael eu dal i ariannu risgiau neu gostau penodol.

    Mae'r Cyngor hefyd yn dal rhai categorïau o gronfeydd wrth gefn sy'n grantiau a ddygir ymlaen a dim ond yn unol â thelerau ac amodau'r grant y gellir eu defnyddio i ariannu mathau penodol o wariant.

     

     

     

    Un enghraifft o'r mathau o gynlluniau y mae'r Cyngor yn eu hariannu o'i gronfeydd wrth gefn yw rhaglenni buddsoddi mawr sy'n gwella gwasanaethau'r Cyngor megis Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff a chynlluniau adfywio lleol.


    Mae'r Cyngor hefyd yn neilltuo cyllid o danwariant i ariannu gwaith ar brosiectau megis cynlluniau Prosiect Sero, Gwelliannau Digidol a Buddsoddi i Arbed. Cedwir cronfeydd wrth gefn hefyd i warchod rhag risgiau ariannol posibl fel gwariant annisgwyl, yswiriant neu hawliadau cyfreithiol. 

     

    O'r balans amcanestynedig ar gyfer y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2022, caiff cyfran fawr ei neilltuo i gefnogi gwasanaethau statudol a chynlluniau cyfalaf.

  • Beth yw gwasanaethau statudol yn erbyn gwasanaethau anstatudol?

    Gwasanaethau statudol yw'r gwasanaethau y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu darparu yn ôl y gyfraith. Mae'r rhain yn bethau fel ysgolion, addysg a gofal i oedolion a phlant sy'n agored i niwed.


    Gwasanaethau anstatudol yw'r gwasanaethau nad yw'n ofynnol i'r Cyngor eu darparu yn ôl y gyfraith, ond gallant ddewis gwneud hynny oherwydd y galw gan breswylwyr / poblogrwydd. Enghreifftiau o'r rhain fyddai casglu gwastraff ac ailgylchu, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a thorri glaswellt.

  • Beth yw cyllid Cyfalaf? A ellir defnyddio hyn i fynd i'r afael â'r diffyg?

    Yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru y mae'r Cyngor yn ei dderbyn i gynnal ei wasanaethau, mae hefyd yn cael dyraniad cyfalaf i fuddsoddi mewn asedau hirdymor h.y. ffyrdd ac adeiladau a fydd fel arfer yn para mwy na 12 mis.


    Gellir ategu'r cyllid hwn drwy gyllid grant, incwm o werthu asedau a chyfraniadau gan gronfeydd wrth gefn a datblygwyr a benthyca allanol.
     
    Dyma enghreifftiau o'r math o gynlluniau y mae'r Cyngor yn eu hariannu:
    Gosod wyneb ffyrdd, rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, yr orsaf trosglwyddo gwastraff, parciau gwledig ac ardaloedd chwarae, cynlluniau rheoli risg o llifogydd, datgarboneiddio, cynlluniau teithio llesol a phlannu coed, cynlluniau adfywio a seilwaith digidol.
    Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i'r Cyngor flaenoriaethu cynlluniau Iechyd a Diogelwch a Statudol yn gyntaf. 

  • Pam na allwch leihau nifer y Cynghorwyr neu gyflogau / treuliau Cyflogwyr i arbed cyllid?

    Dim ond 0.4% o gyllideb y Cyngor y mae cyflogau a threuliau Cynghorwyr yn ei ddefnyddio.


    Nid yw Cyngor Bro Morgannwg yn penderfynu ar nifer y Cynghorwyr yn y Fro, na'r lwfans ariannol a bennir ar gyfer aelodau.


    Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) sy'n gyfrifol am bennu tâl Cynghorwyr. Mae PACGA wedi cyhoeddi adroddiad drafft sy'n nodi cynigion i gynyddu lwfans aelodau 17% yn 2022/23.


    Bydd nifer y Cynghorwyr yn y Fro yn cynyddu o 47 i 54. Mae hyn ar ôl penderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhellion ar ddiwygio ffiniau'r wardiau, fel y'u pennwyd gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.