Meysydd Parcio Cyrchfan: Mae meysydd parcio cyrchfan fel Ynys y Barri a Southerndown yn denu ymwelwyr gydol y flwyddyn, a'r rhain sydd yn costio fwyaf i'w cynnal (yn enwedig yn ystod y tymor brig). Mae codi tâl gydol y flwyddyn wedi ei gynnig, lle gynt y codwyd tâl yn yr haf yn unig, er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn.
Parcio Canol Tref: Mae opsiynau arhosiad byr ac arhosiad hir wedi'u cynnig i sicrhau nad yw preswylwyr sy'n mynd ar deithiau byr i ganol trefi yn rheolaidd yn cael eu rhoi dan anfantais ac nad yw busnesau'n cael eu heffeithio. Fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth o feysydd parcio canol tref yn parhau'n rhad ac am ddim.
Parciau Gwledig: Bydd taliadau'n cael eu cyflwyno i gynorthwyo i gefnogi'r gwasanaethau a gynigir yn Cosmeston a Phorthceri. Ni fydd unrhyw daliadau mewn grym cyn 10am bob bore i ganiatáu i breswylwyr lleol barhau i ddefnyddio'r cyfleusterau yn gynnar yn y bore.
Meysydd Parcio Arfordirol: Ni chynigiwyd taliadau mewn meysydd parcio arfordirol gan fod y rhain yn cael eu defnyddio amlaf gan drigolion lleol. Mae'r Cyngor wedi ymgynghori o'r blaen ar wahanol opsiynau ynghlwm â rheoli parcio ceir ar draws Bro Morgannwg. Mae'r ymagwedd hwn yn deillio o nifer o astudiaethau parcio a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr allanol yn 2013, 2015 a 2018. Mae hefyd wedi ei fwydo gan ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn ystod 2018, ystyriaeth fanwl gan bwyllgorau craffu yn 2018 yn ogystal â thrafodaethau pellach.
Bydd y taliadau arfaethedig yn cael eu hadolygu'n flynyddol. Dim ond wedi ymgysylltu ac ymgynghori pellach y byddai unrhyw daliadau neu newidiadau ychwanegol neu newydd yn cael eu rhoi ar waith.