Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mwynhau
Byw
Cyngor
Gweithio
Mae dyletswydd y sector gyhoeddus yng Nghymru yn gofyn bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn datblygu amcanion cydraddoldeb a chynllun strategol cydraddoldeb a fydd yn cynorthwyo i gyflawni dyletswydd cyffredin y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn golygu ein bod yn bwriadu sefydlu'r blaenoriaethau pwysicaf a fydd yn gwella tegwch yn y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu ac yn annog perthynas dda rhwng trigolion Bro Morgannwg.
Yn 2012 fe gytunwyd ar ein Cynllun Strategol Cydraddoldeb ac amcanion cydraddoldeb cyntaf ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2012 tan fis Mawrth 2016. Gwnaethon ni hyn ar ôl cynnal ymchwil a thrafod â phobl i weld beth oedd yn bwysig iddyn nhw.
Erbyn hyn, mae angen i ni adolygu’r amcanion cydraddoldeb i ddarganfod a oes angen parhau i weithio arnyn nhw, eu newid, neu lunio rhai newydd. I wneud hyn, mae angen i ni wybod beth yw’ch barn chi.
A fuasech cystal â mynegi’ch barn i ni drwy ddefnyddio naill ai'r ffurflen neu'r arolwg isod os gwelwch yn dda?