Ymgynghoriad Strategaeth Cartrefi Gwag 2019-2024
Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein drafft Strategaeth Cartrefi Gwag a gyfer 2019-24. Mae'r strategaeth ddraft yn nodi ymrwymiad parhaus y Cyngor i wneud y defnydd gorau posibl o'r stoc dai bresennol.

Gall eiddo gwag gael effaith negyddol ar fywydau trigolion lleol gan eu bod yn fagnet i droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn gallu gostwng gwerth eiddo yn y cyffiniau ac yn cyfrannu at ddirywiad cymdogaethau. Maent hefyd yn risg i’r gwasanaethau brys ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar dimau a gwasanaethau amrywiol y Cyngor.
Ar 1 Ebrill 2019, o’r 58,909 o eiddo preswyl ym Mro Morgannwg, roedd 846 o eiddo preifat yn wag ers chwe mis neu fwy. Mae hyn yn cynrychioli 1.4% o’r stoc dai. O’r 846 o eiddo preifat, mae 311 (36.76%) wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd a 47 (5.56%) ers dros ddeng mlynedd.
Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor (15 Gorffennaf 2019) Strategaeth Cartrefi Gwag 2019-2024 Ddrafft (“y Strategaeth ddrafft”) fel dogfen ymgynghorol. Eiddo preifat sy’n wag yn yr hirdymor (gwag ers chwe mis neu fwy) yw prif ffocws y Strategaeth ddrafft.
Mae’r Strategaeth ddrafft yn dilyn y Strategaeth 2012-2017 flaenorol ac yn nodi ymrwymiad parhaus y Cyngor i wneud y defnydd gorau posibl o’r stoc dai bresennol a’r rôl y bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn ei chwarae o ran dechrau ailddefnyddio eiddo sy’n wag yn yr hirdymor, ynghyd â’r adnoddau, y pwerau a’r prosesau y gall y Cyngor eu defnyddio i gyflawni hyn.
Wrth ddelio â pherchnogion eiddo gwag, camau gwirfoddol yw’r opsiwn dymunol bob tro. Mae cyngor, cymorth a chymhellion yn lleihau’r pwysau ar adnoddau’r Cyngor a’r angen am gamau gorfodi yn ddiweddarach.
Prif nodau’r Strategaeth ddrafft yw:
-
Casglu, cynnal a gwella cywirdeb data cartrefi gwag
-
Rhoi cyngor, cymorth a chymhellion ariannol i leihau nifer yr eiddo gwag hirdymor
-
Hyrwyddo dull Cyngor cyfan o ymdrin â chartrefi gwag
-
Blaenoriaethu cartrefi gwag ar gyfer camau gweithredu gorfodi
-
Chodi ymwybyddiaeth o gartrefi gwag
Dweud Eich Dweud
Rydym yn eich gwahodd i gael golwg ar y Strategaeth a dweud eich dweud drwy gwblhau’r arolwg ar-lein.
Strategaeth Ddrafft 2019-24
Arolwg Ar-lein
Os ydych chi’n gwneud yr arolwg hwn ar bapur, neu os ydych am wneud unrhyw sylwadau pellach, gyrrwch nhw i:
RHADBOST RTGU-JGBH-YYJZ,
Ymgynghoriad,
Cyngor Bro Morgannwg,
Swyddfeydd Dinesig,
Heol Holltwn, Y Barri,
CF63 4RU.
Dyddiad cau’r cyfnod ymgynghori yw 22 Tachwedd 2019.
Caiff yr holl sylwadau eu rhoi i Gabinet y Cyngor ar ôl yr ymarfer ymgynghori er mwyn iddo ystyried unrhyw newidiadau i’r Strategaeth Cartrefi Gwag 2019-2024 Ddrafft cyn i’r fersiwn orffenedig gael ei chyhoeddi.