Mae plentyn ysgol gynradd sy'n byw dros 2 filltir a phlentyn ysgol uwchradd sy'n byw dros 3 milltir i ffwrdd, gan ddefnyddio llwybr cerdded sydd ar gael ac yn mynychu ysgol y dalgylch, yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Gall rhai disgyblion fod yn gymwys yn seiliedig ar lwybr cerdded nad yw ar gael, o'u cartref i'r ysgol.
Mae'r meini prawf pellter ar gyfer cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Fesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.