Cynhalwyr sy’n Gweithio
Mae ein polisi cynhalwyr yn cynnwys nifer o fuddion i weithwyr yn amodol ar yr amgylchiadau unigol
Nod y polisi hwn yw gofalu am anghenion cynhalwyr sy’n gweithio i Gyngor Bro Morgannwg. Mae’n fwriad gan y Cyngor i gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofal a’u galluogi i gloriannu’r rhain yn effeithlon â’u cyfrifoldebau yn y gwaith.
Ymhlith buddion cynnig gweithle sy’n gyfeillgar i gynhalwyr mae:
- Mynediad i adnoddau e-bost a ffôn
- Cyfnodau rhydd o’r swyddfa
- Cynllun saib i’r yrfa
- Adnoddau gwaith hyblyg
- Caniatâd am absenoldeb arbennig
- Caniatâd am absenoldeb di-dâl
- Gweithio gartref
Nod y polisi hwn yw darparu fframwaith a fydd yn cefnogi gweithwyr i aros yn eu swydd ac i gynnig trefniadau gwaith hyblyg.
Mae Gweithgor Cynhalwyr mewn Cyflogaeth wedi cael ei sefydlu i ofyn barn cynhalwyr a monitro gweithrediad y polisi hwn.