Gall pob bwyd sy'n weddill, gan gynnwys pilion llysiau a sgerbydau tyrcwn fynd i’ch bin gwastraff bwyd. Mae modd ailgylchu cardiau Nadolig a chardbord heb gliter.
Peidiwch â rhoi unrhyw bapur lapio yn eich bagiau neu flychau ailgylchu. Dylid rhoi pob papur lapio yn eich bag du.
Yn anffodus ni allwn gasglu goleuadau Nadolig, tâp selo, clymau, tinsel/addurniadau a pholystyren.