Ceisiadau ffilmio
Mae Bro Morgannwg yn lle perffaith i ffilmio. Mae’r sir yn enwog am ei phorfeydd gwyrddion, arfordir a thraethau treftadaeth creigiog, a threfi lliwgar.
Rydyn ni'n sir a fydd yn eich synnu. Sir lle mae milltiroedd o arfordir trawiadol yn cwrdd â thirwedd cefn gwlad godidog. Sir sy’n gartref i bentrefi bach pert Cymreig, trefi marchnad bywiog, a chanolfannau dinesig llawn cymeriad a phersonoliaeth. Mae Caerdydd ar garreg y drws ac mae gennym ni gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol (boed mewn car, ar drên neu ar awyren) sy'n ddelfrydol o ran sefydlu lleoliad ffilmio.
Mae cwmnïau’n defnyddio nifer o leoliadau’n rheolaidd. Ymhlith y rhaglenni a ffilmiwyd yma mae Gavin & Stacey, Doctor Who, Torchwood, Tracey Beaker, Merlin a Pobol y Cwm.
Gwneud cais ffilmio
I wneud cais i ffilmio ym Mro Morgannwg cysylltwch â'n tîm twristiaeth drwy wefan Visit the Vale.
Gwneud cais ffilmio