Cost of Living Support Icon

 

Cynllun cronfa geir sy’n torri costau ar restr fer i dderbyn gwobr

Mae’r cynllun rhannu ceir wnaeth arbed £126,000 i Gyngor Bro Morgannwg y llynedd wedi cael ei roi ar restr fer gwobr genedlaethol.

  • Dydd Gwener, 19 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r cynllun cronfa geir, a lansiwyd yn 2015, wedi lleihau costau teithio hanfodol staff fwy na £10,000 bob mis, rhywbeth sydd wedi arwain at roi’r awdurdod ar y rhestr fer ar gyfer yr adran rheoli cerbydau mwyaf cynaliadwy yn Fforwm Cerbydau’r Dyfodol yr LAPV.

Pool Car Corsa

Dywedodd y Cyng. Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Mae teithio staff hanfodol, megis sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cyrraedd eu hapwyntiadau cymunedol, yn achosi nifer o heriau’r dyddiau hyn.  

 

“Mae’r cynllun cronfa geir wedi bod yn llwyddiant ysgubol nid yn unig ar yr ochr ariannol, ond hefyd o ran arbed amser staff a chyflawni gostyngiad sylweddol yn allyriadau carbon y Cyngor.  

 

“Lluniwyd y project cyfan a’i gyflenwi yn fewnol, a dylai pawb oedd ynghlwm fod yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth genedlaethol.”

Mae prynu ceir tanwydd-effeithlon drwy ‘ocsiwn gwrthdroi’ arloesol, oedd i fod i arbed £100,000 bob blwyddyn, a monitro effeithiol ar lle fyddai orau i leoli’r cerbydau i sicrhau mwy o effeithlonrwydd, wedi golygu bod y cynllun wedi arbed 25% yn fwy na hyn. 

 

Fforwm Cerbydau’r Dyfodol yw’r unig ddigwyddiad rheoli cerbydau sector cyhoeddus rhyngwladol sy’n cynnig ffyrdd newydd o feddwl, enghreifftiau o arfer gorau byd-eang a datrysiadau i oresgyn yr heriau a ddaw yn sgil rheoli cerbydau mewn amgylchedd gwleidyddol newidiol.