Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth cymorth trais domestig ar y rhestr fer ar gyfer gwobr tai yn y DU

Mae cynllun tai sy’n darparu lloches i ddioddefwyr trais domestig wedi’i roi ar restr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.

 

  • Dydd Gwener, 19 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



Cafodd y Cynllun Cam-Drin Domestig Gwasgaredig a redir gan Gyngor Bro Morgannwg ei roi ar y rhestr fer yn y categori 'Ymagwedd ragorol at gydraddoldeb ac amrywiaeth’ yng Ngwobrau Tai y DU.  

 

UKHA finalist

Mae’r gwasanaeth yn unigryw oherwydd ei fod yn niwtral o ran y rhywiau. Mae’n rhywbeth sy’n ei alluogi i fodloni anghenion amrywiol o ran llety a chymorth y cleientiaid hynny nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer lloches cam-drin domestig draddodiadol. Gall hyn gynnwys aelodau’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, dynion, menywod sydd â phlant gwrywaidd, a phobl hŷn.

 

Yn wahanol i ymagwedd fwy traddodiadol a fyddai'n cynnwys nifer o gleientiaid mewn lloches ddiogel unigol, mae'r Cynllun Cam-Drin Domestig Gwasgaredig yn darparu eiddo hunan-gynwysedig saff a diogel, ac yna caiff cymorth hyblyg ei ddarparu yn eu cartref newydd.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, yr Aelod Cabinet dros Dai: “Mae’r cynllun yn darparu cartref parhaol i'r rhai sy’n dianc rhag cam-drin domestig, a cheir nodweddion diogelwch wedi'u gwella, mewn cymuned ddiogel. Yn aml, y rhain fydd rhai o'r aelodau mwyaf agored yn ein cymuned ac nid yw'n ormod i ddweud bod y gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor a'r partneriaid yn achub bywydau.  

 

“Mae’r model rydym wedi ei arloesi yn llenwi bylchau sy’n bodoli mewn gwasanaethau cymorth ar gyfer cam-drin domestig ar hyd a lled y DU. Mae hyn yn arfer gorau cenedlaethol go iawn ac rydym yn gwybod bod nifer o awdurdodau lleol eraill eisoes yn edrych i mewn i gopïo ein hymagwedd.”

 

Caiff yr eiddo eu darparu i gleientiaid dan denantiaeth sicr o Dai Newydd a darperir cymorth ychwanegol gan Atal y Fro.

 

Mae’r cynllun hefyd yn gost-effeithiol oherwydd y gellir ei enhangu a'i leihau yn ôl y gofyn heb fod y Cyngor yn gorfod cynnal eiddo gwag neu heb eu defnyddio llawer a fyddai'n wir pe câi llochesau traddodiadol eu datblygu ar gyfer pob un o’r  cymunedau amrywiol y mae’r cynllun yn darparu ar eu cyfer. 

 

Gwobrau Tai y DU yw un o'r gwobrau mwyaf a mwyaf nodedig yn y sector tai, sy’n rhoi cyfle i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol arddangos y gwaith ardderchog maent wedi ei wneud yn y flwyddyn a aeth heibio. Cynhelir seremoni eleni ym mis Mai.