Cost of Living Support Icon

 

Newidiadau i Wefan y Cyngor

Dros y flwyddyn i ddod byddwch yn gweld sawl newid i olwg gwefan y Cyngor a'r ffordd mae'n gweithio.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg

 

 


New website design

Gan fod y rhyngrwyd bellach yn cael ei ddefnyddio’n fwy ar ddyfeisiau symudol nag ar gyfrifiaduron, mae’r Cyngor yn datblygu ei wefan i sicrhau y gall cwsmeriaid gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ar y dyfeisiau y maen nhw’n eu defnyddio.

 

Mae mwy na 70% o’r bobl sy’n mynd i’n gwefan bellach yn defnyddio dyfeisiau symudol.

 

Mae’r wefan newydd yn cael ei datblygu trwy ymchwilio i’r diwydiant a dadansoddi gwefannau. Bydd y wefan newydd yn:

  • Cynnig mwy o wasanaethau ar-lein gan alluogi trigolion i wneud cais, adrodd, talu ac ymgeisio am fwy o wasanaethau ar-lein.

  • Fwy ymatebol i alluogi'r wefan i ffitio sgriniau gwahanol ddyfeisiau'n awtomatig.

 

Caiff y safle newydd ei gyflwyno mewn nifer o gamau.

 

Cam 1: Hydref 2018

  • Pennawd newydd gyda swyddogaeth chwilio well

  • Pedair eitem ychwanegol ar y ddewislen – Adrodd, Ymgeisio, Gwneud Cais a Thalu

  • Hafan newydd fel y gall cwsmeriaid ddod o hyd i’r cynnwys y maen nhw ei eisiau’n haws

 

Caiff diweddariadau pellach eu postio ar dudalen newyddion diweddaraf y wefan.