Cynghorwyr y Bont-Faen yn galw ar i fwy o grpwiau cymunedol wneud cais am £200,000, wrth i Sgowtiaid lleol dderbyn £17,000
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn apelio ar grwpiau cymunedol yn y Bont-faen i gyflwyno cynigion am gyfleusterau cymunedol newydd, neu addasiadau i’r rhai hynny y maen nhw’n eu rheoli ar hyn o bryd.
Yn ddiweddar derbyniodd Grŵp Sgowtiaid Cyntaf y Bont-faen £16,950 drwy law Cronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf y Cyngor, i dalu am do newydd, storfa ac ailaddurno eu neuadd yn llwyr, yn ogystal ag offer newydd i gefnogi eu gwaith codi arian.
Gan fod y Cyngor i fod i dderbyn £200,000 fel rhan o’r cytundeb cynllunio S106 sy’n gysylltiedig â’r datblygiad tai newydd yng ngogledd-ddwyrain y dre, mae cynghorwyr lleol wedi galw ar sefydliadau trydydd sector, grwpiau chwaraeon a chymunedol a grwpiau gwirfoddol sy’n gweithio yn ardal y Bont-faen i ddatgan diddordeb.
Dywedodd y Cynghorydd Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac aelod ward dros y Bont-faen: “Yn y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn glyfar iawn, nid yn unig yn sicrhau arian sylweddol drwy gytundebau S106, ond hefyd drwy weithio gyda chymunedau lleol i wneud y defnydd gorau ohono. Drwy gysylltu’r gwaith hwn gyda’r Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf llwyddiannus, rydym wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ddwsinau o gymunedau ledled y Fro. Mae hon yn ffordd o weithio yr ydym am fanteisio arni i’r eithaf yn y Bont-faen.”
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: Mae gwaith grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol fel Sgowtiaid Cyntaf y Bont-faen yn cael effaith fawr ar fywydau pobl, a gall buddsoddi i’w gwneud nhw’n fwy cynaliadwy, neu eu helpu i ehangu eu gwaith, eu rhoi nhw ar sylfaen gref fydd yn gwneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r arian y mae’r Cyngor wedi negodi ar ran y Bont-faen, mae angen rhagor o grwpiau i ddod ymlaen i siarad â ni am eu cynlluniau.”
Dywedodd Pete Gardner o grŵp y Sgowtiaid: “Mae codi arian llwyddiannus yn allweddol i gynaliadwyedd y grŵp. Er enghraifft, rydym yn treulio mis y flwyddyn yn adeiladu ac yn addurno ceirw pren a dynion eira i’w gwerthu ym mharêd ceirw’r Nadolig. Bydd rhan o’r cymhorthdal yr ydym wedi ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i brynu’n hoffer ein hunain fel nad oes angen i ni bellach fenthyg y rhain gan rieni.
“Caiff gweddill yr arian ei wario ar welliannau i neuadd y Sgowtiaid. Bydd y rhain yn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy effeithlon i wresogi’r neuadd, ac yn rhoi gofod storio fel bod amrywiaeth ehangach o grwpiau lleol yn gallu defnyddio’r cyfleuster.
“Roedd gwneud cais am y cymhorthdal yn broses hawdd ac roedd tîm datblygu economaidd y Cyngor wrth law i’n helpu gyda phob cam.”
Gall unrhyw grŵp cymunedol, gwirfoddol neu drydydd sector yn y Fro wneud cais am arian drwy gyfrwng y Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf. Gellir mynegi diddordeb cychwynnol drwy gysylltu â thîm Cymhorthdal Cymunedau Cryf ar 01446 704636, neu drwy e-bostio scgfapplicatons@valeofglamorgan.gov.uk
Ar ôl i’r datganiadau o ddiddordeb hyn gael eu derbyn, cânt eu hystyried, ac os ydynt yn gymwys, bydd y Cyngor yn gwahodd y grwpiau hyn i gyflwyno cais llawn.