Cost of Living Support Icon

 

Arddangosfa gelf ryngwladol yn dychwelyd i'r Barri. 

Bydd yr Oriel Gelf Ganolog sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg yn Sgwâr y Brenin yn croesawu’n ôl yr arddangosfa gelf lwyddiannus Open Books. 

 

  • Dydd Mawrth, 02 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg

    Barri


 

Bydd yr Oriel Gelf Ganolog sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg yn Sgwâr y Brenin yn croesawu’n ôl yr arddangosfa gelf lwyddiannus Open Books. 

 

open books2.jpg

Cafodd yr arddangosfa Open Books ei dechrau'n ôl yn 2010 gan artist o’r Barri, Mary Husted.  Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Mae’r arddangosfa wedi’i hehangu ers hynny, gan deithio i Fryste ac Amgueddfa Celf Gyfoes Sangsham yn Tsieina.   

 

Mae'r arddangosfa yn cynnwys llyfrau plygiedig wedi'u paentio â llaw a gwaith celf trawiadol wedi'u creu gan artistiaid cydnabyddedig rhyngwladol o Gymru, Tsieina, Canada, India ac America.  Mae’r arddangosfa wedi tyfu cymaint mewn maint fel ei bod yn rhy fawr i’w chynnal mewn un lleoliad yn unig, ac felly mae’n teithio’r byd yn gyson.  Mae’n dychwelyd i’r Barri ddydd Sadwrn 13 Ebrill ar y cyd â’r Paper Exchange yn y Bay Arts, arddangosfa o waith ar bapur gan artistiaid o Gymru a Tsieina.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae croesawu’r arddangosfa hon yn ôl, sydd wedi cael dylanwad pellgyrhaeddol, yn symbol o falchder ar gyfer cymuned gelfyddydau'r Barri.  Mae cynnal casgliad mor unigryw o waith a grëwyd gan amrywiaeth o unigolion talentog yn wir anrhydedd.  Mae’r arddangosfa yn dangos un o’r nifer o resymau pam y dylai preswylwyr y Barri barhau i fynychu digwyddiadau ac arddangosfeydd am ddim yr Oriel Gelf Ganolog.


“Mae gweld artistiau yn dod at ei gilydd o sawl cenedl trwy eu brwdfrydedd dros gelf yn ysbrydoledig.  Rydym yn gobeithio y bydd yr oriel yn parhau i chwarae rôl arweiniol yn y celfyddydau ar lefel leol a rhyngwladol.  Projectau fel hyn sy’n cyfrannu at sicrhau bod y gymuned gelfyddydau yn y Barri yn parhau i ffynnu.” 

 

Cynhelir y digwyddiad rhwng 2pm a 4pm a bydd ar agor i’r cyhoedd.  Mae mynediad am ddim .