Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn erlyn perchennog siop cebabs yn Llanilltud Fawr 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llwyddo i erlyn perchennog siop cebabs ym Mro Morgannwg yn llwyddiannus am ddefnyddio ffrïwr saim dwfn a oedd yn risg diogelwch sylweddol.

 

  • Dydd Iau, 28 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg

    Llantwit Major



Daeth i’r Amlwg bod Mehmet Cecen, Cyfarwyddwr Llantwit Kebab House Limited, a oedd yn masnachu dan yr enw The New Best Kebab, East Street, Llanilltud Fawr, wedi defnyddio’r ffrïwr ar ôl i beiriannwr diogelwch nwy ddweud ei fod yn “beryglus iawn” yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd.


Daethpwyd ag achosion yn erbyn Mr Cecen gan swyddogion sy’n gweithio i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, partneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, sy’n dwyn swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd y tri awdurdod lleol ynghyd.


Roedd hynny ar ôl iddo gyfaddef defnyddio’r ffrïwr ar ôl cael hysbysiad diogelwch.
Plediodd Mr Cecen yn euog i ddau drosedd dan Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 am ailgysylltu’r cyflenwad nwy a defnyddio’r ffrïwr ar ôl iddo gael dosbarthiad ‘peryglus iawn’ ac am fethu â chynnal yr offer i safon ddiogel. 

 

 

Civic

Cyfaddefodd hefyd i drydedd trosedd am fethu â chynnal y ffrïwr mewn cyflwr da a chyflwr diogel dan Reoliadau Darparu a Defnyddio Cyflwr Gwaith 1998.


Cafodd Mr Cecen ddirwy o £1095, a gorchymyn i dalu costau o £350 a gordal dioddefwr o £111, a chafodd y cwmni ddirwy o £120.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chyfreithiol, y Cynghorydd Hunter Jarvie: “Roedd hyn yn beryglus iawn ac yn torri rheoliadau iechyd a diogelwch a wnaeth beri risg mawr i staff a chwsmeriaid. Roedd hi’n lwcus na chafodd unrhyw un niwed!


“Mae’r Cyngor yn cymryd ei ddyletswydd gofal mewn achosion o’r fath yn hynod o ddifri a byddwn yn parhau i fynd ar ôl y rheiny sy’n torri deddfwriaeth o’r fath. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn anfon neges bod rhaid dilyn deddfwriaeth o’r fath yn drwyadl a bod canlyniadau difrifol os na wneir hynny."