Cost of Living Support Icon

 

Astudiaeth o Goridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Morglawdd Caerdydd/Penarth

Mae Capita, yr ymgynghorydd penodedig, wedi mynd ati i symud Astudiaeth o Goridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Morglawdd Caerdydd Penarth ymlaen i asesiad Cam Dau WelTAG a bydd tri opsiwn ar y rhestr fer a argymhellwyd o Gam Un yn cael eu hasesu’n fanylach.

  • Dydd Iau, 06 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg

 

Cardiff Bay Barrage

Y tri opsiwn sy’n cael eu hystyried yw:

  • Cynigion teithio llesol ar gyfer Penarth o fewn Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Bro Morgannwg
  • Bws Parcio a Theithio a chysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy ar draws Morglawdd Caerdydd 
  • Cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy aml-foddol yng Ngorsaf Reilffordd Cogan

 

Lluniwyd yr amcanion ar gyfer yr astudiaeth drwy ddigwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid Cam Un WelTAG, adolygiad o astudiaethau blaenorol a thrwy ystyried y problemau a nodwyd.

 

Aseswyd pob amcan posibl hefyd o ran ei allu i gyfrannu at bob un o'r nodau llesiant a phum ffordd o weithio fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Amcanion yr astudiaeth WelTAG yw:

 

1. Gwella cysylltedd cynaliadwy ar draws coridor trafnidiaeth Morglawdd Caerdydd Penarth er mwyn cyflawni newid moddol i ffwrdd o’r car preifat tuag at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;

 

2. Lleihau rhwystrau sy'n cyfyngu ar gyfleoedd i gynyddu teithio drwy ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy;

 

3. Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy sy'n gwella hygyrchedd ar hyd coridor trafnidiaeth Morglawdd Caerdydd Penarth a chefnogi cynhwysiant cymdeithasol, iechyd a lles;

 

4. Sicrhau gwelliannau cynaliadwy i drafnidiaeth sy'n annog mwy o weithgarwch economaidd ac sy’n cefnogi buddsoddiad hirdymor; 

 

5. Cyflwyno mesurau trafnidiaeth gynaliadwy sy'n diogelu ac yn gwella'r amgylchedd hanesyddol, adeiledig a naturiol.

 

Digwyddiad Galw Heibio

Dydd Mercher 19 Mehefin 2019, 1.00pm - 7.00pm 

Ystafelloedd Paget, Victoria Road, Penarth, CF64 3EG.

 

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i chi roi adborth ar y tri opsiwn ar y rhestr fer gan gynnwys eu manteision a'u hanfanteision, ynghyd â sut y gallai'r opsiynau hyn liniaru'r problemau a'r cyfyngiadau canfyddedig sy'n gysylltiedig â theithio yn yr ardal hon.

 

Yn ogystal â gwrando ar eich barn am sut y gallai’r atebion arfaethedig wella teithio cynaliadwy, bydd staff perthnasol wrth law i roi gwybodaeth ychwanegol i'r cyhoedd am yr astudiaeth a'r broses WelTAG.

 

Ariennir yr astudiaeth yn llawn gan grant penodol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.