Cost of Living Support Icon

 

Cynnwys gwasanaeth atgyfeirio cam-drin domestig y Fro ar restr fer gwobr tai yn y DU

Mae cynllun tai sy’n cynnig y cymorth priodol ar yr adeg briodol i ddioddefwyr cam-drin domestig ym Mro Morgannwg wedi cael ei roi ar restr ar gyfer gwobr genedlaethol.

 

  • Dydd Iau, 28 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



UK Housing AwardsMae gwasanaeth Cam-drin Domestig, Asesu ac Atgyfeirio Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei gydnabod yng nghategori “Arloeswr y Flwyddyn” Gwobrau Tai'r DU. 


Nod y gwasanaeth pwrpasol hwn, a lansiwyd yn 2018, yw gostwng nifer yr achosion o gam-drin domestig mynych drwy nodi, ar y cyfle cyntaf, pa gymorth sydd fwyaf addas i’r preswylydd. 


Drwy wneud hyn, mae’r Cyngor nid yn unig yn gobeithio cynnig llwybr cymorth gwell i’r defnyddiwr gwasanaeth, a gwella effeithlonrwydd drwy gydweithio ag asiantaethau partner, ond hefyd lleihau’r perygl o weld yr achos yn gwaethygu. 

 
Meddai’r Cyng. Andrew Parker, Aelod Cabinet dros Dai:

 

“Mae’r cynllun yn cynnig gwasanaeth pwrpasol i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig.”


“Mae ein gwasanaeth asesu ac atgyfeirio yn cynyddu diogelwch ein preswylwyr, ac yn lleihau’r posibilrwydd o weld eu hamgylchiadau personol yn gwaethygu, drwy nodi eu hanghenion penodol a’u rhoi mewn cysylltiad â gwasanaeth priodol.”  


O’r atgyfeiriad cychwynnol gan yr heddlu, mae’r gwasanaeth yn cysylltu gyda’r dioddefwr i gynnig cymorth gyda thai, atgyfnerthu’r targed, gwasanaethau cymorth ariannol a Chyngor ar Bopeth.


Gall y tîm atgyfeirio hefyd gysylltu â gwasanaethau iechyd amrywiol ar gyfer unrhyw anghenion cymhleth a nodir, a chyfathrebu â thimau ledled y Cyngor - o’r Gwasanaeth Addysg i’r Gwasanaeth Plant ac o’r Gwasanaeth Oedolion i wasanaethau Iechyd.


Yn ystod chwe mis cyntaf y gwasanaeth, daeth mwy na 1100 o atgyfeiriadau i law, gydag 89% o’r rheiny yn cael eu hasesu a’u cyfeirio at y gweithwyr proffesiynol priodol i gael cymorth.


Mae hyn yn welliant mawr ar y gwasanaeth blaenorol, ac mae wedi dileu atgyfeiriadau amhriodol drwy wella’r trefniadau cyfathrebu rhwng timau, sydd bellach yn canolbwyntio ar nodi ac ymyrryd ar gam cynnar. 


Mae Gwobrau Tai'r DU un o’r gwobrau mwyaf a mawreddog yn y sector tai ac yn rhoi’r cyfle i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ddangos y gwaith neilltuol y maent wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn. 


Caiff y seremoni eleni ei chynnal ar 01 Mai yn Grosvenor House yn Llundain, a bydd gwasanaeth Cam-drin Domestig, Asesu ac Atgyfeirio Cyngor Bro Morgannwg yn cystadlu yn y categori “Arloeswr y Flwyddyn”.