Cost of Living Support Icon

 

Diweddglo wyl ffilmiau yn croesawu artist colur ac ymgais i dorri record byd

Bydd gŵyl ffilmiau gyntaf Bro Morgannwg yn croesawu artist gwallt a cholur penigamp yn ogystal ag ymgais i gynnal cwis mwyaf y byd yn ôl Record Byd Guinness.

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



Peter Swords King on the set of The HobbitBydd Peter Swords King, a enillodd Oscar a BAFTA am ei waith yng nghyfresi Lord of the Rings a The Hobbit, yn cynnal sgwrs a dosbarth meistr ar gyfer y rhai sy’n frwdfrydig, fel rhan o ddiweddglo’r ŵyl. Gweithiodd hefyd ar Pirates of the Caribbean a Mary Poppins Returns gan Disney.


Mae’r dosbarth meistr yn cynnig cyfle i ffans gael trochi yng ngwaith yr artist a dysgu am wahanol fathau o golur ac elfennau o gynyrchiadau sgrin. Daw’r dosbarth i glo gyda sesiwn holi ac ateb.


“Mae e wrth graidd gwneud ffilmiau a than ei ganllaw, caiff y gynulleidfa brofi gwybodaeth am gynhyrchiad a ddaw yn unigryw o'i brofiad." - Lynn McFarlane o Dresd Studios.

Caiff ffrindiau, cyfeillion a ffans ffilm eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymdrech i dorri Record y Byd Guinness ar gyfer cwis ffilmiau mwyaf y byd, a fydd yn cynnwys 500 cystadleuydd. Caiff chwaraewyr wledd o ddodrefn ffilm, setiau a gwisgoedd o sioeau teledu a ffilmiau.


Bydd yr ŵyl yn digwydd o 26 Medi tan 06 Hydref a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy leoliadau unigryw yn y Fro. Bydd y ddau ddigwyddiad yn digwydd ar 06 Hydref yn Dresd Studios, Sain Tathan. Cewch ragor o wybodaeth ac archebu tocynnau ar-lein:

  • https://www.valefilmfest.co.uk/cy/digwyddiadau/ 

 

Mae'r project hwn wedi derbyn cyllid drwy Gyngor Bro Morgannwg a Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r tîm Cymunedau Creadigol Gwledig, rhan o Gyngor Bro Morgannwg, wedi bod yn gweithio’n agos â chymunedau a busnesau yn y Fro wledig i helpu i ddod â’r digwyddiad hwn yn fyw. 

 

Nod y cynllun peilot yw asesu’r diddordeb mewn gŵyl ffilmiau sy’n dathlu ffilmiau a lleoliadau unigryw mewn cymunedau gwledig trwy’r sir.