Cost of Living Support Icon

 

Tri aelod o staff ysgolion Bro Morgannwg yn cyrraedd rhestr fer gwobrau

Mae tri aelod staff o ysgolion Bro Morgannwg yn y ras i gael eu cydnabod ym mhedwerydd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sy’n wobrau blynyddol.

 

  • Dydd Gwener, 27 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Mae Tracy Mills a Gavin Packer o Wasanaeth Ieuenctid y Fro, sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc yn Ysgol Uwchradd Whitmore a St Cyres, yn y rownd derfynol yn y categori Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, tra bod Yvonne Hawkins o Ysgol Gynradd Palmerston yn gobeithio ennill gwobr Rheolwr/Bwrsar Ysgol.
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni rithwir ddydd Sul wedi i'r digwyddiad gwreiddiol gael ei ohirio oherwydd y pandemig coronafeirws.


Gall ysgolion, disgyblion a theuluoedd gefnogi'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol drwy fewngofnodi ar dudalen Facebook Addysg Cymru o 6pm.


Cafodd dros 100 o enwebiadau eu casglu yn gynharach eleni gan ddisgyblion, cydweithwyr a rhieni sydd am ddathlu'r athrawon eithriadol yn eu bywydau.


Cawsant eu casglu’n 26 a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar draws naw categori sy'n cynnwys:

  • Athro'r Flwyddyn mewn ysgol Gynradd
  • Athro Newydd Eithriadol
  • Defnydd Ysbrydoledig o'r Gymraeg
  • Cefnogi Athrawon a Dysgwyr
  • Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion
  • Athro'r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd
  • Rheolwr/Bwrsar Busnes Ysgol
  • Pennaeth y FlwyddynGwobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am yr Athro Gorau

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Ar ôl blwyddyn hynod heriol i athrawon, staff, disgyblion a'u teuluoedd, ni fu erioed yn bwysicach cydnabod ymrwymiad a gwaith caled ein gweithwyr addysg proffesiynol.

 

"Ar draws y Fro mae gennym gannoedd o staff ysgol talentog felly nid yw'n syndod gweld yr Awdurdod yn cael cymaint o gynrychiolaeth yn y categorïau hyn.


"Hoffwn ddymuno pob lwc i Tracy, Gavin ac Yvonne ar gyfer dydd Sul ac anfon fy niolch diffuant i bawb sy'n gweithio yn ein hysgolion."