Cost of Living Support Icon

 

Ailenwi Pafiliwn Pier Penarth dros dro ar gyfer cynhyrchiad teledu

Caiff Pafiliwn Pier Penarth ei ailfrandio am ennyd yr wythnos hon tra mae cynhyrchiad Channel 4 yn ffilmio yno

 

  • Dydd Mawrth, 25 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Fel rhan o 4 Stories, cyfres chwe rhan sy'n cynnwys straeon 30 munud o wahanol gymunedau, Caiff yr adeilad ei ailenwi am ddau ddiwrnod.


Codir arwydd newydd ar gyfer y ffilmio ddydd Mercher a dydd Iau a bydd y pafiliwn yn dychwelyd i'r arfer wedyn.


Caiff rhan fach o'r pier hefyd ei neilltuo ar gyfer y cynhyrchiad.

pavilion1Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Ers cymryd yr awenau ym Mhafiliwn Pier Penarth ym mis Chwefror, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i'w ailsefydlu fel ased cymunedol.
"Mae'r adeilad wedi cael ei lanhau'n drylwyr a'i atgyweirio, ac mae Cwmni Arlwyo Big Fresh y Cyngor wedi agor caffi yno.


"Mae hyrwyddo'r pafiliwn hefyd yn rhan bwysig o gynllun y Cyngor at y dyfodol ac mae hyn yn cynnig cyfle i arddangos yr adeilad eiconig i gynulleidfa ehangach. Mae hefyd yn ffordd o gynhyrchu incwm y gellir ei ailfuddsoddi yn y cyfleuster lleol gwerthfawr hwn."


Mewn ymarfer ymgysylltu yn ddiweddar, rhwng 17 Mawrth ac Ebrill 21, gofynnodd y Cyngor i drigolion sut yr hoffent i'r pafiliwn gael ei ddefnyddio.


Cafwyd mwy na 1,000 o ymatebion i'r arolwg a’r atebion mwyaf poblogaidd oedd digwyddiadau sinema, cerddoriaeth fyw, theatr a chomedi.


Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y caffi, a gofod bwyd stryd a bar posibl yn ogystal â dosbarthiadau a sesiynau grŵp yn yr adeilad hanesyddol.


Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda phartneriaid ynghylch ailagor y sinema a sut y gellid cynnal digwyddiadau cerddoriaeth ac artistig gan gadw at y cyfyngiadau coronafeirws.